Via Egnatia
Roedd y Via Egnatia (Groeg: Εγνατία Οδός) yn ffordd Rufeinig yn y Balcanau a adeiladwyd gan y Rhufeiniaid yn yr 2ail ganrif CC. Roedd yn croesi taleithiau Rhufeinig Illyria, Macedonia, a Thrace, gan redeg trwy diriogaeth sydd heddiw'n rhan o Albania, Gweriniaeth Macedonia, Gwlad Groeg, a rhan Ewropeaidd Twrci.
Math | ffordd filwrol, ffordd Rufeinig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Twrci |
Gan ddechrau yn ninas Dyrrachium (Durrës heddiw, Albania) ar lan Môr Adria, dilynai'r ffordd lwybr anodd ar hyd afon Genusus (Afon Skhumbini), dros fynyddoedd Candaviae ac ymlaen i'r ucheldiroedd o gwmpas Llyn Ohrid. Roedd yn troi i'r de wedyn, gan ddilyn sawl bwlch uchel i gyrraedd arfordir gogleddol Môr Aegea yn Thessalonica. O fan 'na rhedai ymlaen trwy Thrace i ddinas Byzantium (Istanbul heddiw). Ei hyd oedd tua 1,120 km (696 milltir fodern / 746 milltir Rufeinig).
Hanes
golyguAdeiladwyd y Via Egnatia i gysylltu'r gwladfeydd Rhufeinig rhwng Môr Adria a'r Bosphorus. Gorweddai pennau'r Via Egnatia a'r Via Appia, yn arwain i ddinas Rhufain ei hun, gyferbyn â'u gilydd ar Fôr Adria. Felly roedd y ffordd yn gysylltiad uniongyrchol rhwng gwladfeydd de'r Balcanau a Rhufain. Yn ogystal roedd yn gyswllt hanfodol i'r tiriogaethau Rhufeinig yn Asia Leiaf; cyn i ffordd fwy gogleddol gael ei hagor gan Augustus hon oedd prif gyswllt Rhufain ar dir â'i thiriogaethau yn nwyrain Môr y Canoldir.
Chwareodd ran bwysig yn hanes Rhufain. Teithiodd byddinoedd Iŵl Cesar a Pompey ar hyd y Via Egnatia yn y rhyfel cartref, ac yn ddiweddarach aeth Marc Antoni ac Octavian ar ôl Cassius a Brutus i'w hymladd ym Mrwydr Philippi. Atgyweirwyd y ffordd gan Trajan cyn ei ymgyrch yn OC 113 yn erbyn y Parthiaid. Ond erbyn y 5g roedd y ffordd mewn cyflwr gwael.
Cafodd ei hatgyweirio eto gan y Bysantiaid ond ni ddaeth yn ôl i'w hen ogoniant. Heddiw mae'r ffordd Εγνατία Οδός yn dilyn ei chwrs yng Ngwlad Groeg.
Prif drefi ar y Via Egnatia
golygu(wedi'u rhestri o'r gorllewin i'r dwyrain)
Enw hynafol | Enw diweddar | Gwlad bresennol |
---|---|---|
Dyrrachium, wedyn Epidamnos | Durrës | Albania |
Claudiana | Peqin | Albania |
Apollonia | Ger pentref Pojani (7 km i'r gorllewin o Fier) | Albania |
Masio Scampa | Elbasan | Albania |
Lychnidos | Ohrid | Gweriniaeth Macedonia |
Heraclea Lyncestis | 2 km of Bitola | Gweriniaeth Macedonia |
Florina | Florina | Gwlad Groeg |
Edessa | Edessa | Gwlad Groeg |
Pella | Pella | Gwlad Groeg |
Thessalonica | Thessaloniki | Gwlad Groeg |
Pydna | Efallai Kitros, ger Pydna | Gwlad Groeg |
Amphipolis | Ampifoli | Gwlad Groeg |
Philippi | 14 km o Kavala | Gwlad Groeg |
Neapolis | Kavala | Gwlad Groeg |
Traianoupolis | Traianoupoli | Gwlad Groeg |
Kypsela | İpsala | Twrci |
Aenus | Enez | Twrci |
Aproi (neu Apros, Apris, Aprī,...) | Pentref Kermeyan | Twrci |
Perinthus, wedyn Heraclea | Marmaraereğlisi | Twrci |
Rhegion | Küçük Çekmece, ger Istanbul | Twrci |
Adrianople (Adrianopolis) | Edirne | Twrci |
Caenophrurium | Çorlu | Twrci |
Melantias | safle anhysbys | Twrci |
Byzantium, wedyn Caer Gystennin | Istanbul | Twrci |
Llyfryddiaeth
golygu- Michele Fasolo: La via Egnatia I. Da Apollonia e Dyrrachium ad Herakleia Lynkestidos, Istituto Grafico Editoriale Romano, II ediz., Roma 2005
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Hanes Ffeil PDF