Pibydd Gwyrdd

rhywogaeth o adar
Pibydd Gwyrdd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Scolopacidae
Genws: Tringa
Rhywogaeth: T. ochropus
Enw deuenwol
Tringa ochropus
(Linnaeus, 1758)
Tringa ochropus

Mae'r Pibydd Gwyrdd (Tringa ochropus) yn aelod o deulu'r rhydyddion.

Mae'r Pibydd Coesgoch yn nythu ar draws gogledd Ewrop a gogledd Asia. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de a'r gorllewin ac yn gaeafu o gwmpas Môr y Canoldir, de Asia ac Affrica.

Nid yw'r Pibydd Gwyrdd yn hel at ei gilydd yn heidiau y tu allan i'r tymor nythu fel llawer o rydyddion, ac fel rheol dim ond nifer bach, hyd at 6 neu 7, sydd i'w gweld gyda'i gilydd. Mae'n well ganddo ddŵr croyw na glannau'r môr, ac mae'n aml i'w weld ar llan llyn neu bwll llai, neu hyd yn oed mewn ffôs.

Mae ganddo gefn gwyrdd tywyll, sy'n edrych bron yn ddu fel rheol, pen a bron llwydddu a bol gwyn. Mae smotiau gwyn ar y cefn, ac mae llinell wen fer uwchben y llygad, ond heb ymestyn tu draw iddi. Pan mae'n hedfan gellir gweld y darn mawr gwyn uwchben y gynffon.

Mae'r Pibydd Gwyrdd yn dodwy eu wyau mewn hen nythod wedi eu hadeiladu gan adar eraill, er enghraifft y Socan Eira. Dodwyir 3 neu 4 wy. Eu prif fwyd yw unrhyw greaduriad bychain sy'n byw ar y mwd o gwmpas y glannau.

Nid yw'r Pibydd Gwyrdd yn nythu yng Nghymru, ond mae'n weddol gyffredin wrth iddo fudo tua'r de ar ôl nythu, yn enwedig tua diwedd Gorffennaf a thrwy Awst. Mae nifer fychan yn treulio'r gaeaf yma.