Picellwr praff

gwas y neidr
Picellwr Praff
Libellula depressa
Libellula depressa benywaidd yng Ngwarchodfa Natur Glascoed, Llanelwy. Llun gan Alun Williams.
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Anisoptera
Teulu: Libellulidae
Genws: Libellula
Rhywogaeth: L. depressa
Enw deuenwol
Libellula depressa
Linnaeus, 1758

Yn Ewrop a chanol Asia, y Picellwr praff (Lladin: Libellula depressa yw un o'r gweision neidr mwyaf cyffredin.[1] I deulu'r Libellulidae mae'n perthyn. Mae'n hawdd ei adnabod oherwydd ei abdomen glas, fflat a llydan, a phedwar clwtyn o liw ar adain y gwryw.

Mae gan y gwryw a'r fenyw abdomen fflat a llydan, sy'n frown gyda chlytiau melyn i lawr yr ochrau. Mae abdomen y gwryw yn troi'n wawr o las sy'n gorchuddio'r brown ymhen amser. Hyd yr adenydd yw 70 mm.

Cynefin y L. depressa yw llynnoedd llonydd a phyllau, ble ceir digon o bryfaid i'w bwyta. Mae'n un o'r gweision neidr cyntaf i gynefino â phyllau dŵr newydd. Fe'u gwelir yn aml ymhell o ddŵr ac maent yn ymfudol.

Gwahaniaeth mewn maint
gwryw ifanc
L. depressa gwryw, gan ddangos yr abdomen fflat, llydan, glas
Benyw L. depressa gan ddangos bonion yr adain, a chlytiau o felyn ar yr abdomen
Hen fenyw: sylwer fod y lliw yn dywyllach

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Hart. M., et al, (1978), The Naturetrail Omnibus, London: Usborne Publishing Limited, tud. 157

Dolen allanol golygu