Orthetrum cancellatum
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Anisoptera
Teulu: Libellulidae
Genws: Orthetrum
Rhywogaeth: O. cancellatum
Enw deuenwol
Orthetrum cancellatum
(Linnaeus, 1758)

Gwas neidr o deulu'r Libellulidae ('Y Picellwyr') yw'r Picellwr tinddu (Lladin: Orthetrum cancellatum; lluosog: picellwyr tinddu). Dyma'r teulu mwyaf o weision neidr drwy'r byd, gyda dros 1,000 o rywogaethau gwahanol. Mae i'w ganfod yn Asia (mor bell â Kashmir a Mongolia) ac Ewrop - gan gynnwys rhannau o wledydd Prydain ar wahân i'r Alban a gwledydd Sagndinafaidd. Ceir y cofnod cyntaf ohono yng ngwledydd Prydain yn Essex yn 1934.

Mae gan yr oedolyn abdomen glas gyda'r pen ôl yn ddu ac adenydd tryloyw. Melyn yw lliw'r fenyw, gyda streipiau duon. Mae hyd adenydd O. cancellatum yn 49mm a gwelir ef ar ei adain rhwng Mai ac Awst fel arfer ger llwyni o goed, llysdyfiant a phlanhigion eraill ar lanau llynnoedd llonydd a phyllau dŵr.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu