Pila gwyrdd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Fringillidae
Genws: Carduelis
Rhywogaeth: C. spinus
Enw deuenwol
Carduelis spinus
(Linnaeus, 1758)
Carduelis spinus

Mae'r Pila gwyrdd (Carduelis spinus) yn perthyn i'r teulu Fringillidae. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop, gorllewin Rwsia a rhan o ddwyrain Asia.

Nid yw'r Pila gwyrdd yn aderyn mudol yn y rhannau lle mae'r gaeafau'n weddol gynnes, ond mae adar o'r gogledd yn symud tua'r de a'r gorllewin yn y gaeaf. a'r adar o ddwyrain Asia yn gaeafu yn Tsieina. Mae'n aderyn gweddol fychan, 11.5-13.5 cm o hyd. Mae'r cefn yn llwydwyrdd a'r bol yn llwyd gyda marciau gwyn, yr adenydd yn ddu dyda bar melyn amlwg ar eu traws a'r gynffon yn ddu gydag ochrau melyn. Mae pen a bron y ceiliog yn felyn gyda chap du, tra mae'r iâr yn llwydwyrdd ar y pen.

Adeiledir y nyth mewn coeden fel rheol, ac mae'n aderyn nodweddiadaol o goedwigoedd bytholwyrdd. Hadau yw'r bwyd fel rheol, ac mae'n arbennig o hoff o hadau Gwernen a Bedwen, ond mae hefyd yn dal pryfed i fwydo'r cywion. Yn y gaeaf mae'n aml yn ymgasglu'n heidiau.

Mae'n aderyn cyffredin yng Nghymru, lle mae wedi cynyddu'n sylweddol yn stod yr 50 mlynedd diwethaf.