Gitarydd bas, cerddor, cyfansoddwr caneuon a chynhyrchydd recordiau o Gymro yw Pino Palladino (ganwyd Giuseppe Henry Palladino, 17 Hydref 1957). Mae'n faswr sesiwn toreithiog sydd wedi chwarae bas ar gyfer llawer o gerddorion adnabyddus. Ar ôl marwolaeth John Entwistle yn 2002 ymddangosai yn gyson gyda The Who.

Pino Palladino
GanwydGiuseppe Henry Palladino Edit this on Wikidata
17 Hydref 1957 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Label recordioVerve Records Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethbasydd, cerddor jazz, cerddor sesiwn, gitarydd Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth roc, cyfoes R&B Edit this on Wikidata

Yn fab i fam o Gymraes (Ann Hazard) a thad o'r Eidal (Umberto Palladino, o ddinas Campobasso, Molise), fe'i ganwyd yng Nghaerdydd ar 17 Hydref 1957. Mynychodd ysgol Gatholig. Dechreuodd chwarae'r gitâr yn 14 oed a gitâr fas yn 17 oed. Priododd Marilyn Roberts yn 1992; roedd ganddynt dri o blant.

Cyfeiriadau golygu