Pixie Lott
Cantores ac actores Seisnig ydy Pixie Lott (ganed 12 Ionawr 1991). Arwyddodd gytundeb gyda Mercury Records yn y Deyrnas Unedig a label Interscope yn America.
Pixie Lott | |
---|---|
Ffugenw | Pixie Lott |
Ganwyd | Victoria Louise Lott 12 Ionawr 1991 Llundain |
Label recordio | Mercury Records |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cerddor, canwr-gyfansoddwr, canwr, actor llwyfan, actor ffilm, artist recordio |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd |
Math o lais | mezzo-soprano |
Gwefan | http://www.pixielott.com, http://pixielott.com/ |
Cafodd ei chân gyntaf ei rhyddhau i'w lawrlwytho ar 6 Mehefin 2009 ac ar ffurf sengl ar 8 Mehefin. Aeth y gân i rif un y siartiau ar 14 Mehefin 2009.
Bywyd Cynnar
golyguGanwyd Lott yn Bromley, yn ne-ddwyrain Llundain. Mae'n byw yn Essex gyda'i thad, sy'n werthwr cyfranddaliadau, a'i mam sy'n wraig tŷ; mae ganddi frawd a chwaer hŷn. Rhoddwyd y ffugenw "Pixie" iddi am ei bod yn "faban bychan, ciwt" a edrychai fel tylwyth teg..[1]
Wedi iddi ddechrau canu yn ei hysgol eglwysig, mynychodd Lott ysgol Sadwrn "Italia Conti Associates" yn Chislehurst pan oedd yn bum mlwydd oed. Pan symudodd ei theulu i Essex parhaodd trwy fynd i brif ysgol "Italia Conti Academy of Theatre Arts", lle derbyniodd ysgoloriaeth. Tra'n fyfyriwr yno, ymddangosodd yng nghynhyrchiad y West End o Chitty Chitty Bang Bang ym Mhaladiwm Llundain, ac yn rhaglen BBC One "Celebrate the Sound of Music" lle chwaraeodd rhan Louisa von Trapp. Pan oedd yn 14 oed, roedd yn rhan o'r llinell gorws, gan recordio'r elfen leisiol yn opera Roger Waters Ça Ira.
Ymddangosiadau ffilm a theledu
golygu- 2005: Celebrate the Sound of Music (BBC One) — Louisa von Trapp
- 2007: Genie in the House (Nickelodeon) — cantores/dawnswraig
- 2009: Alan Carr: Chatty Man (Channel 4)
- 2009: Y Loteri Genedlaethol (BBC One)
Disgograffiaeth
golyguAlbymau stiwdio
golyguBlwyddyn | Teitl | Safle uchaf yn y siart | |||
---|---|---|---|---|---|
DU | Iwerddon | Iseldiroedd | Seland Newydd | ||
2009 | Turn It Up
|
6 | 18 | 92 | 30 |
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Pop Pixie has a whole Lotta love. BBC News. 2009-06-05. Adalwyd ar 2009-06-108