Pitsa
Bwyd poblogaidd o'r Eidal yw pitsa (Eidaleg: pizza), sy'n dafell o does wedi'i bobi ac arno: amryw o 'dopins' e.e. caws a saws tomato. Mae'r gair o bosibl yn dod o fara pita. Daw yn wreiddiol o Napoli, ac heddiw fe'i fwyteir ar draws y byd.[1] Ers y 1980au mae nifer o bitserias (Eidaleg: pizzerias) yn cynnig gwasanaeth archebu dros y ffôn neu ar-lein. Mae pitsas rhew yn un o'r prydau parod mwyaf poblogaidd.
Hanes
golyguArferai'r Groegiaid orchuddio'u bara gydag olewn, caws, pherlysiau.[2] Yn ardal Napoli y datblygodd y pits modern, fodd bynnag, a hynny ar ddechrau'r 19g.[3] Cyn hynny, arferid rhoi garlleg, halen, saim neu lard, caws a basil ar dafell o fara gwyn. Ceir cryn anghytundeb pa bryd y cychwynwyd rhoi saws tomato arno.[3] Credir mai'r Antica Pizzeria Port'Alba yn Napoli oedd y Pitseria cyntaf.[4]
Credir yn gyffredinol mai yn 1889 y crewyd y pizza Margherita cyntaf, pan ofynnodd y Palas Brenhinol Capodimonte i'r pobwr pitsa Raffaele Esposito am bitsa arbennig ar gyfer eu hymwelydd Margherita o Savoy (1851 – 1926). Gwnaeth dri gwahanolo, a barn y Frenhines oedd mai'r un a wnaed o liwiau baner yr Eidal oedd ei ffefryn: coch (tomato), gwyrdd (basil) a gwyn (mozzarella). Anrhydeddwyd y Frenhines pan benderfynwyd alw'r pitsa hwn ar ei hôl: "Pizza Margherita",[5]. Rhaid cofio wrth gwrs mai chwedl leol ydy hon, ac sy'n groes i'r ymchwil diweddaraf, yn debyg iawn i chwedl Gelert.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Miller, Hanna (April/May 2006). "American Pie". American Heritage Magazine. Cyrchwyd 4 May 2012. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ Talati-Padiyar, Dhwani. Travelled, Tasted, Tried & Tailored: Food Chronicles. ISBN 1304961354. Cyrchwyd 18 November 2014.[dolen farw]
- ↑ 3.0 3.1 Helstosky, Carol (2008). Pizza: A Global History. London: Reaktion. tt. 21–22. ISBN 1-86189-391-4.
- ↑ "Avpn". Pizzanapoletana.org. 1984-09-28. Cyrchwyd 2009-06-05.
- ↑ "Pizza Margherita: History and Recipe". Italy Magazine. 14 March 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-07. Cyrchwyd 2Ebrill 2012.
- ↑ "Was margherita pizza really named after Italy's queen?". BBC Food. 28 Rhagfyr 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-31. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2012.