Y Blaid Geidwadol (DU)
Mae'r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Saesneg:The Conservative and Unionist Party) yn blaid wleidyddol canol-dde yn y Deyrnas Unedig. Fe'i hadnabyddir hefyd fel Y Blaid Geidwadol, Ceidwadwyr, y Blaid Dorïaid neu'n llai ffurfiol Torïaid.
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | |
---|---|
![]() | |
Arweinydd | Rishi Sunak |
Cadeirydd | Ben Eliot a James Cleverly |
Sefydlwyd | 1834 |
Rhagflaenwyd gan | Y Blaid Doriaidd |
Pencadlys | Conservative Campaign HQ 4 Matthew Parker Street, Llundain, SW1H 9NP, Lloegr |
Asgell yr ifanc | Conservative Future |
Asgell y merched | Mudiad Merched Ceidwadol |
Aelodaeth (2019) | ![]() |
Rhestr o idiolegau | Ceidwadaeth[2] syniadaeth gwrth-Ewrop[3] British unionism |
Sbectrwm gwleidyddol | canol-dde |
Partner rhyngwladol | Undeb Rhyngwladol Democrataidd |
Cysylltiadau Ewropeaidd | Cynghrair Ceidwadwyr a Diwygwyr Ewropeaidd |
Grŵp yn Senedd Ewrop | Ceidwadwyr a Diwygwyr Ewropeaidd |
Lliw | Glas |
Tŷ'r Cyffredin | 365 / 650 |
Tŷ'r Arglwyddi | 259 / 790 |
Cynulliad Llundain | 8 / 25 |
Senedd Cymru | 16 / 60 |
Llywodraeth Lleol yn y DU | 6,994 / 19,698 |
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu | 20 / 40 |
Gwefan | |
conservatives.com |
Sefydlwyd y blaid yn ei ffurf bresennol pan unodd gyda'r 'Rhyddfrydwyr Unoliaethol' (Liberal Unionist Party) a newidiwyd yr enw i 'Blaid Geidwadol ac Unoliaethol', sy'n parhau i fod yr enw swyddogol a chyfreithiol. Yn hanesyddol fe'i hystyrir yn brif blaid yr asgell dde gymhedrol. Yn 2014 roedd ganddi fwy o Aelodau Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin ac yn llywodraethu mewn clymblaid gyda'r Rhyddfrydwyr Democrataidd. Yn ystod yr 20g, hi oedd un o'r ddwy blaid gryfaf; bu'n llywodraethu am 57 mlynedd, gan gynnwys dan arweinyddiaeth Winston Churchill (1940–45, 1951–55) a Margaret Thatcher (1979–90). Erbyn diwedd yr 20g, y Ceidwadwyr hefyd oedd y prif wrthwynebydd i'r Senedd Ewropeaidd.

Y Blaid Geidwadol yng Nghymru golygu
- Prif: Ceidwadwyr Cymreig
Yn yr Etholiad Cyffredinol 1997 collodd y blaid bob un o'i seddi yng Nghymru, ond yn yr Etholiad Cyffredinol 2005, fe ailgipiwyd tair ohonynt.
Yn dilyn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007, bu gan y blaid 12 o'r 60 sedd; ar ôl 2013 hi oedd ail blaid fwyaf Cymru (o ran nifer yr aelodau seneddol), gyda Phlaid Cymru'n drydedd.
Cafodd y blaid etholiad cyffredinol ysgubol yn Rhagfyr 2019 gan ennill 14 Sedd allan o'r 40 Sedd Gymreig yn y Tŷ’r Cyffredin. Dyma gynnydd o 6 sedd o'r Blaid Llafur i'r Blaid Geidwadol. Torrwyd wal goch Llafur yn y Gogledd Ddwyrain gan adael un fricsen goch sef etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy. Yn ôl nifer dyma berfformiad gwaethaf Llafur ers dyddiau Margaret Thatcher yn y 80au.[4]
Perfformiad golygu
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Malnick, Edward (25 Mai 2019). "Membership of UK political parties". Daily Telegraph. Cyrchwyd 25 Mai 2019.
- ↑ http://www.parties-and-elections.eu/unitedkingdom.html
- ↑ Lynch, Whitaker, Philip, Richard (2012). "Where There is Discord, Can They Bring Harmony? Managing Intra-party Dissent on European Integration in the Conservative Party" (PDF). The British Journal of Politics and International Relations. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-05-02. Cyrchwyd 1 Mai 2014.
- ↑ "Etholiad 2019: 'Wal goch' yn troi'n fricsen". BBC Cymru Fyw. 2019-12-13. Cyrchwyd 2020-06-04.
Dolenni allanol golygu
- (Saesneg) Plaid Geidwadol y DU