Plas Menai

lleoliad chwaraeon yng Nghymru

Canolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol Cymru yw Plas Menai. Mae wedi'i lleoli ar lan ddeheuol Afon Menai, tua dwy filltir i'r dwyrain o Gaernarfon i gyfeiriad Bangor, Gwynedd. Mae'r ganolfan yn cynnig llawer o gyrsiau technegol ac addysgu hyfforddwyr mewn hwylio dingi, gwyntsyrffio, gyrru cychod pŵer, morio a chaiacio. Mae hefyd yn cynnal rhaglen o weithgareddau awyr agored i ysgolion, grwpiau, oedolion, plant a’r gymuned leol. Perchennog y ganolfan ydy Chwaraeon Cymru.

Plas Menai
Mathlleoliad chwaraeon, adeiladwaith pensaernïol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.170645°N 4.241208°W Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethChwaraeon Cymru Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

"Plas y Deri" oedd enw'r ganolfan yn gyntaf, pan agorodd ei drysau yn 1978 ond newidiwyd yr enw yn 1980 i enw mwy morwrol. Mae hi'n efaill i Blas y Brenin ger Capel Curig, er fod gan y ddwy ganolfan berchnogion gwahanol. Cyfarwyddwr cyntaf Plas Menai oedd John A Jackson.

Fel Plas y Brenin, yn wreiddiol, cynlluniwyd llethr sgio ar gyfer y ganolfan, ond aeth pethau'n ffliwt pan roddwyd pwysau arnynt i beidio a mynd ymlaen gyda'r cynlluniau - gan bobl o Landudno, oedd newydd agor llethr sgio eu hunain. Roedd y gwaith o adeiladu'r llethr wedi cychwyn a chodwyd bryncyn 80 troedfedd o uchder cyn rhoi'r ffidil yn y to. Yn 2006 trowyd y bryncyn yn fan hyfforddi beicio antur a gelwir y trac yn "Trac Jackson", i gofio'r Cyfarwyddwr cyntaf.

 
Plas Menai

Math o gyrsiau a gynigir

golygu
  • Taith Caiacio Môr Connemara
  • Hyfforddwyr Lefel 1 y BCU
  • Penwythnos Morio ar arfordir Cymru

Sgiliau

golygu

Cyfeiriadau

golygu