Platŵn

uned filwrol

Uned filwrol dactegol yn y fyddin yw platŵn sydd yn cynnwys rhyw 20 i 50 o filwyr dan orchymyn lefftenant.[1] Dyma'r uned barhaol o filwyr leiaf ei faint sydd dan awdurdod swyddog â chomisiwn. Mae sawl platŵn yn ffurfio cwmni o droedfilwyr, magnelfa o fagnelwyr, neu farchoglu o farchfilwyr. Rhennir y platŵn yn ddau neu fwy o adrannau neu sgwadiau, dan arweiniad swyddogion digomisiwn.[2] Yn ôl diffiniadau NATO o esielonau ar gyfer lluoedd y tir, trefniant sydd yn fwy nag adran fach (section) ac yn llai na chwmni yw platŵn, a ddynodir gan symbol y tri ysmotyn (●●●).[3]

Platŵn Reifflwyr Sam Houston yn Texas (1939).

Ymddangosodd y gair Saesneg platoon yn yr 17g i gyfeirio at lu bychan o fysgedwyr a fyddai'n saethu ar y cyd, bob yn ail â chriw arall a fyddai'n ail-lenwi eu mysgedau ar y pryd.[2] Daw'r gair yn y bôn o'r Ffrangeg peloton, sef pelen.[4] Yn y 18g cafodd bataliynau eu trefnu yn aml yn 16 o blatynau, a chanddynt ryw 24 o saethwyr yr un, ac hefyd dau neu bedwar platŵn o grenadwyr neu droedfilwyr ysgeifn. Diflannodd y platŵn yn y Fyddin Brydeinig wrth i'r mysgedwr ildio'i swyddogaeth i'r reifflwr, ond defnyddiwyd yr enw gan Fyddin yr Unol Daleithiau trwy gydol y 19g i gyfeirio at hanner cwmni. Ailgyflwynwyd yr enw platŵn i'r Fyddin Brydeinig ym 1913.[2]

Gweler hefyd golygu

  • Platoon, ffilm ryfel Americanaidd o 1986

Cyfeiriadau golygu

  1.  platŵn. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Mai 2021.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Platoon. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mai 2021.
  3. (Saesneg) "NATO Joint Military Symbology APP-6(C)", NATO (Mai 2011). Adalwyd ar Wayback Machine ar 29 Mai 2021.
  4. (Saesneg) "platoon", Merriam-Webster. Adalwyd ar 30 Mai 2021.