Mae Plerin (Ffrangeg: Plérin) yn gymuned (Llydaweg: kumunioù; Ffrangeg: communes) yn Departamant Aodoù-an-Arvor (Ffrangeg: Département Côtes-d'Armor), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Porzhig, Sant-Brieg, Ploufragan, Tremuzon ac mae ganddi boblogaeth o tua 14,704 (1 Ionawr 2021).

Plerin
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth14,704 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethRonan Kerdraon Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iHerzogenrath, Wronki, Cookstown Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Llydaw Llydaw
Arwynebedd27.72 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr105 metr, 0 metr, 143 metr Edit this on Wikidata
GerllawGouët, Môr Udd, Q100388981 Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaPorzhig, Sant-Brieg, Ploufragan, Tremuzon, Pordic Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.5344°N 2.7708°W Edit this on Wikidata
Cod post22190 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Plerin Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethRonan Kerdraon Edit this on Wikidata
Map

Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg.

Lleolir Marché du Porc Breton, yn Plerin, dyma lle nodi pris porc ar gyfer gwerthwyr ar draws Ffrainc.[1]

Ceir y cofnod cynharaf i'r enw "Plerin" yn 1225, "Parrochia de Plerin" yn 1254, "Ecclesia de Plerin" oddeutu 1330,[2] "Ploerin" yn 1636.[3]

Daw'r enw Plerin o'r Lydaweg - ple- sef ffurf ar yr hen Lydaweg, plou ('plwyf' yn y Gymraeg, sydd, ei hun o'r Lladin plebs). Daw'r ail ran o enw person; Erin neu Eren,[2] sydd hefyd i'w ganfod yn merdeistrefi Plourin a hefyd Plourin-lès-Morlaix, yn Penn-ar-Bed.

Am resymau hyrwyddo twristiaeth, hyrwyddi'r y dref fel Plérin-sur-Mer, yn fynych, er nad oes cydnabyddiaeth swyddogol i hyn.

Llydaweg

golygu

Ar ddechrau'r flwyddyn ysgol 2019, cofrestrwyd 46 o fyfyrwyr yn y ffrwd ddwyieithog gyhoeddus, Div yezh.

Pleidleisiodd cyngor y ddinas aelodaeth o Siarter iaith i gefnogi'r Lydweg, Ya d’ar brezhoneg ar 18 Rhagfyr 2017.

Poblogaeth

golygu

 

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: