Albwm cyntaf y grŵp Plu yw Plu. Rhyddhawyd yr albwm yng Ngorffennaf 2013 ar y label Sbrigyn Ymborth.

Plu
Albwm stiwdio gan Plu
Rhyddhawyd Gorffennaf 2013
Label Sbrigyn Ymborth

Brawd a dwy chwaer sy’n ffurfio Plu - Gwilym, Elan a Marged. Dyma gynnyrch cyntaf y triawd gwerinol, ond nid canu gwerin arferol mo hwn, mae’n werin wedi’i gymysgu â dylanwadau jas, canu gwlad a mwy.

Dewiswyd Plu yn un o ddeg albwm gorau 2013 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Canmoliaeth golygu

Tarwch hi, caewch eich llygaid, a ‘da chi ar strydoedd cul Llydaw gyda gwydraid o win gwyn oer yn eich llaw a gwres yr haul o’ch cwmpas

—Casia Wiliam, Y Selar

Cyfeiriadau golygu