Po’owli
Po’owli Melamprosops phaeosoma | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Drepanididae |
Genws: | Melamprosops[*] |
Rhywogaeth: | Melamprosops phaeosoma |
Enw deuenwol | |
Melamprosops phaeosoma |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Po’owli (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: po’owliaid) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Melamprosops phaeosoma; yr enw Saesneg arno yw Po’ouli. Mae'n perthyn i deulu'r Mêl-gropwyr Hawaii (Lladin: Drepanididae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1]
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn M. phaeosoma, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Teulu
golyguMae'r po’owli yn perthyn i deulu'r Mêl-gropwyr Hawaii (Lladin: Drepanididae) ac i deulu'r Fringillidae sef 'y Pincod'. Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Apapane | Himatione sanguinea | |
Caneri Principé | Crithagra rufobrunnea | |
Q777369 | Carpodacus waltoni eos | |
Llinos goch Blanford | Agraphospiza rubescens | |
Llinos goch Tibet | Carpodacus roborowskii | |
Llinos goch dywyll | Procarduelis nipalensis | |
Mêl-gropiwr copog | Palmeria dolei | |
Tewbig Saõ Tomé | Crithagra concolor |
Hanes ei ddifodiant
golyguYn endemig i Hawaii, cafodd y po'owli olaf, fel pob po’owli, yng nghoedwig law Maui’s Hana, ar lethrau Mynydd Haleakalā – “tŷ’r haul” – lle mae’n bwrw glaw drwy’r amser. Fe'i gelwir hefyd yn 'mêl ddringwr wynebddu', ac fe'i darganfuwyd gyntaf mor ddieweddar a 1973. Yna, amcangyfrifodd ymchwilwyr gyfanswm y boblogaeth yn 200 o adar.
Rhoddodd yr ysgolhaig Mary Kawena Pukui ei henw i’r aderyn, sy’n golygu “pen du”. Mae ei llyfr o ddiarhebion Hawäi yn cynnwys yr un hwn: Hāhai nō ka ua i ka ululāʻau, “mae'r glaw yn dilyn y goedwig”. Mae ystyr dwbl i'r ymadrodd: awgrym a rhybudd ydyw. I ddod o hyd i ddŵr, edrychwch am goedwigoedd. Ond hefyd: pe bai un elfen o ecosystem yn cael ei dinistrio, bydd eraill yn sicr o ddilyn.
Erbyn 1997, dim ond pum po’owli oedd ar ôl. Y flwyddyn honno, ar ddiwrnod anarferol o ddisglair, daliodd ymchwilwyr un am y tro cyntaf. Erbyn y mileniwm newydd, dim ond tri po’ouli oedd ar ôl. Er eu bod yn byw ychydig gilometrau oddi wrth ei gilydd, maent yn annhebygol o fod wedi cyfarfod erioed. Yn lle hynny - efallai allan o unigrwydd, efallai allan o ddryswch - roedd pob un yn treulio amser gyda adar pigbraff Maui [2], a oedd â galwad debyg.
Yn 2004, cafodd y po'ouli un cyfle olaf. Cymerodd chwe pherson 18 mis a $300,000 i ddal aderyn. Yn rhyfeddol, dyma’r un unigolyn ag yr oedd Baker wedi ei faglu saith mlynedd ynghynt, pan ddaeth y person cyntaf i ddal po’owli byw. Yn yr amser hwnnw, roedd yr aderyn wedi colli llygad. Roedd yn hen – o leiaf naw – ac roedd caethiwed yn straen. Bu farw ym Maui 11 wythnos yn ddiweddarach, rhwng 10pm a 11.30pm, ar 26 Tachwedd, o fethiannau ar ei organau.
Efe oedd y po'owli diwethaf a welwyd erioed. Ni allai ymchwilwyr oedd yn gobeithio dal benyw ddod o hyd i'r naill na'r llall o'r adar oedd ar ôl. Yn 2019, datganodd yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur fod y rhywogaeth wedi darfod.[3]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
- ↑ Guardian 4 Mai 2022[1]