Pob Dyn ei Physygwr ei Hun
Llyfr feddygol boblogaidd oedd Pob Dyn ei Physygwr ei Hun (mewn orgraff Gymraeg cyfoes, "Pob dyn ei ffisegwr ei hun"). Roedd yn gyfieithiad o'r llyfr Saeseg Every man his own physician. Awdur y llyfr Saesneg oedd John Theobald a oedd hefyd yn fardd.
Enghraifft o'r canlynol | llyfr |
---|---|
Dyddiad cyhoeddi | 1771 |
Argraffwyd y llyfr Gymraeg yn 1771 yng Nghaerfyrddin gan John Ross[1] (er y nodir "I. Ross" ar y clawr, gan gymryd iddo ddefnyddio fersiwn Lladin o'r enw "John").[2]
Teitl llawn y llyfr, neu'n hytrach, yn ôl arfer yr oes, y geiriau ar y dudalen flaen yw:
“ |
"Pob dyn ei physygwr ei hun. Yn ddwy ran. Yn cynnwys I. Arwyddion y rhan fwyaf o glefydau ag y mae dyn yn ddarostyngedig iddynt, ynghyd â Chynghorion rhagddynt, a gasglwyd allan o waith prif Physygwyr eu Hoesoedd gan Dr. Theobald, ac a gyhoeddwyd yn Saesoneg trwy Orchymyn ei ddiwedar uchelradd Wiliam Duwc o Cumberland; at yr hyn y chwanegwyd amryw Gynghorion at yr un rhyw Glefydau, allan o 'sgrifenlaw hen Awdwr profedig. II. Yn cynnwys cynghorion rhag y rhan fwyaf o glefydau ag y mae Ceffylau, Ychen, Gwartheg, Lloi, Defaid, Wyn, a Moch yn ddarostyngedig iddynt : gwedi eu casglu allan o Waith Awdwyr profedig: Y cwbl yn cynnwys Pethau isel bris a hawdd i'w cael. Ynghyd a thabl at bob rhan. Tra chymmwys ac angenrheidiol ym mhob Teulu, ac i bob Trafaeliwr. Newydd ei gyfieithu i'r Gymraeg" |
” |
Gwybodaeth
golyguAwdur y llyfr yn y Saesneg wreiddiol oedd John Theobald (bu farw yn 1760, ni nodir ei ddyddiad geni). Cyhoeddwyd trydydd argraffiad o'r llyfr yn 1764, hynny yw, wedi ei farwolaeth, ond gellid tybio i'r argraffiad gyntaf fod yn ystod ei fywyd. Cyhoeddwyd y drydedd argraffiad gan W Griffin yn Fetter Lane, Llundain. Enw llawn y llyfr oedd: Every man his own physician Being, a complete collection of efficacious and approved remedies, for every disease incident to the human body. With plain instruction for their common use. By John Theobald. M.D. Author of the Medulla Medicinae. Compiled at the command of his Royal Highness the Duke of Cumberland.[3]
Pwysigrwydd
golyguMae'r llyfr yn gyhoeddiad bwysig iawn gan iddo drosglwyddo gwybodaeth feddygol i Gymry uniaith yn eu hiaith eu hunain. Mae hefyd bellach yn drysorfa i weld pryd fathwyd neu defnyddiwyd geiriau Cymraeg ym maes meddygaeth a gwyddor tŷ.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "John Ross". Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2024.
- ↑ "POB DYN EI PHYSYGWR EI HUN YN DDWY RAN". Villanova University. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2024.
- ↑ "Home Author John Theobald". Villanova Univesity. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2024.
Dolenni allanol
golygu- Pob Dyn ei Physygwr ei Hun Archifwyd 2024-07-17 yn y Peiriant Wayback ar wefan y Wellcome Trust