Poinsetia
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosperms
Ddim wedi'i restru: Eudicots
Ddim wedi'i restru: Rosids
Urdd: Malpighiales
Teulu: Euphorbiaceae
Genws: Euphorbia
Rhywogaeth: E. pulcherrima
Enw deuenwol
Euphorbia pulcherrima
Willd. ex Klotzsch

Planhigyn o'r teulu Euphorbiaceae yw'r poinsetia (lluosog: poinsetias;[1] Lladin: Euphorbia pulcherrima) sy'n frodorol i Fecsico a Chanolbarth America. Yno, gall dyfu hyd at 16 troedfedd o daldra. Yr enw lleol arno ydy flor de la noche buena, 'blodyn y Nadolig'.  

Mae ei ddail coch a gwyrdd yn boblogaidd, bellach drwy Ewrop, adeg y Nadolig. Daw ei enw o Joel Roberts Poinsett, a gyflwynodd y planhigyn i'r Unol Daleithiau pan oedd yn y llysgennad Americanaidd yng ngweriniaeth annibynnol Mecsico rhwng 1825 ac 1829.[2]

Tyfu'r Poinsetia golygu

Gall y Poinsetia fod yn sensitif iawn; dylid ei gadw wyneb y compost yn llaith, drwy ei ddyfrio pan fo'n dechrau sychu. Awgryma'r naturiaethwyr hefyd chwistrellu tarth ysgafn ar y dail bob yn ail ddiwrnod.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, [poinsettia].
  2. (Saesneg) poinsettia. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Rhagfyr 2014.
  3. Gwefan y-cymro.com (Y Cymro); colofn Gerallt Pennant; adalwyd 30 Rhagfyr 2016.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato