Gerallt Pennant
Cyflwynydd teledu a radio Cymreig yw Gerallt Pennant (ganwyd 22 Ionawr 1960).[1]
Gerallt Pennant | |
---|---|
Gerallt Pennant ar raglen deledu Ffermio yn 2004 | |
Ganwyd | 22 Ionawr 1960 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyflwynydd radio |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Pennant ym Mangor, ond magwyd ar fferm Derwin Bach, Bryncir, Eifionydd. Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Garndolbenmaen, Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle ym Mhen-y-groes, a graddiodd mewn Cymraeg a Hanes Cymru yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Mae’n byw ym Mhorthmadog ers 1997.
Gyrfa
golyguWedi graddio, fe weithiodd fel athro ysgol gynradd am ddwy flynedd. Yng nghanol yr 1980au, ymunodd â'r BBC yng Nghaerdydd fel ymchwilydd ar raglenni teledu plant. Aeth yn ei flaen i gynhyrchu rhaglenni garddio, a'r rhaglen Ar y Tir o Fangor.
Bu'n cyflwyno rhaglenni fel Ffermio rhwng 1997 a 2005 a bu hefyd yn cyflwyno rhaglen hynod o boblogaidd ar S4C sef Clwb Garddio. Cafodd y cyfle hefyd i gynhyrchu a chyfarwyddo cyfres deledu Iolo Williams, sef Crwydro ar S4C.
Mae Gerallt yn parhau i gyflwyno rhaglen radio boblogaidd am fyd natur, Galwad Cynnar ar Radio Cymru bob bore Sadwrn.
Ers 2007, mae'n ohebydd y gogledd ar raglen Wedi 7 ac yna Heno ar S4C.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyfarchiad Pen-blwydd i Gerallt Pennant, Wedi 7, 22 Ionawr 2010
Dolenni allanol
golygu