Hanesydd Eidalaidd fu'n byw yn Lloegr oedd Polydore Vergil neu Virgil (c. 147018 Ebrill 1555). Mae ei waith yn ffynhonnell bwysig i gyfnod y Tuduriaid.

Polydore Vergil
Ganwydc. 1470 Edit this on Wikidata
Urbino Edit this on Wikidata
Bu farw28 Ebrill 1555 Edit this on Wikidata
Urbino Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDugiaeth Urbino, Teyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethhanesydd, ysgrifennwr, offeiriad, ysgolhaig Edit this on Wikidata
MudiadDyneiddiaeth Edit this on Wikidata

Ganed Polydore yn Urbino, a dywedir iddo gael ei addysgu yn Bologna. Credir ei fod yng ngwasanaeth Guido Ubaldo, Dug Urbino, cyn 1498. Bu'n siambrlen i'r Pab Alecsander VI am gyfnod, yna daeth i Loegr yn 1501 fel dirpry gasglydd Ceiniogau Sant Pedr. Ar gais y brenin Harri VII, dechreuodd weithio ar ei Historia Anglica ("Hanes Lloegr"); ni chafodd y gwaith yma ei gwblhau hyd Awst 1533 a'i gyhoeddi yn 1534. Daeth yn archddiacon Wells yn 1508. Yn 1515, carcharwyd ef am gyfnod wedi iddo feirniadu'r Cardinal Thomas Wolsey. Dychwelodd i Urbino tua diwedd 1551, a bu farw yno.

Yn ei Historia Anglica, taflodd amheuaeth ar wirionedd hanesion Sieffre o Fynwy, yn cynnwys yr hanesion am Arthur, a bu llawer o ddadlau, gyda John Leland yn cyhoeddi ei Defensso Gallofridi ac Assertio Incomparabilis Arturii i amddiffyn Sieffre.

Gweithiau golygu

  • Liber Proverbiorum (1498)
  • De Inventoribus Rerum (1499)
  • Gildas (1525)
  • Liber de Prodigiis (1526)
  • Historia Anglica