Urbino
Dinas yn nwyrain yr Eidal yw Urbino. Mae'n un o ddwy brifddinas talaith Pesaro-Urbino yn rhanbarth Marche. Roedd y boblogaeth yn 2011 yn 15,501.[1]
![]() | |
![]() | |
Math | cymuned yn yr Eidal, dinas ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 14,558 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, CET, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | Kazan’, Blois, Gwengamp ![]() |
Nawddsant | Crescentinus ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Pesaro ac Urbino ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 226.5 km² ![]() |
Uwch y môr | 485 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Acqualagna, Vallefoglia, Fermignano, Isola del Piano, Lunano, Montecalvo in Foglia, Monteciccardo, Montelabbate, Peglio, Petriano, Piandimeleto, Piobbico, Sant'Angelo in Vado, Sassocorvaro Auditore, Tavoleto, Urbania, Fossombrone, Montefelcino, Mondaino ![]() |
Cyfesurynnau | 43.725239°N 12.6372°E ![]() |
Cod post | 61029 ![]() |
![]() | |
Saif y ddinas 485 medr uwch lefel y môr, gyda muriau o'i hamgylch. Yr adeilad pwysicaf yw'r Palazzo Ducale, sy'n dyddio o'r 15g. Yn yr adeilad yma, ceir yr amgueddfa Galleria Nazionale delle Marche, lle ceir gweithiau megis 'La Muta' (Raffael), 'Veduta della Città Ideale' (Piero della Francesca) a'r 'Swper Olaf' (Titian). Sefydlwyd y brifysgol yn 1506. Dynodwyd canol hanesyddol Urbino yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1998.
HanesGolygu
Dinas Rhufeinig oedd Urbino. "Urbinum Mataurense" (dinas fach ar afon Mataurus) oedd ei henw.
Adeiladau a chofadeiladauGolygu
- Dinas yr Albornoz, neu "La Fortezza"
- Duomo di Urbino (eglwys gadeiriol)
- Eglwys San Giovanni Battista
- Eglwys Sant'Agostino
- Palas y Dug
Pobl enwog o UrbinoGolygu
- Raffaello Sanzio (Raffael) (1483–1520), arlunydd
- Donato Bramante (1444–1514), arlunydd
- Polydore Vergil (1470–1555), hanesydd
- Pab Clement XI (Giovanni Francesco Albani) (1649–1721), Pab (1700–1721)
- Valentino Rossi (g. 1979), tasiwr beic modur
CyfeiriadauGolygu
- ↑ City Population; adalwyd 8 Mai 2018
Cysylltiad allanolGolygu
- Safle we Urbino Archifwyd 2009-09-20 yn y Peiriant Wayback.