Pont y Ddraig
Mae Pont y Ddraig yn bont i gerddwyr a beicwyr ar draws y Foryd, aber Afon Clwyd yn ymyl harbwr Y Rhyl. Agorwyd y bont ym mis Hydref 2013 gan Mark Colbourne, enillydd medalau aur ac arian yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012. Hyd y bont yw 32 medr, ac mae’n codi ar gyfer cychod gyda hwylbrenni uchel. Cost o’i hadeiladu oedd £4.3 miliwn.[1][2]
Math | pont |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.31487°N 3.50784°W |