Aber Afon Clwyd yw Y Foryd, lle ceir harbwr y Rhyl, Sir Ddinbych. Mae'n gorwedd ar arfordir gogledd Cymru ar gwr gorllewinol y Rhyl. Mae'r ffin rhwng Sir Conwy (i'r gorllewin) a Sir Ddinbych yn rhedeg trwy'r aber.

Y Foryd
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Peidiwch â chymysgu y safle hon â Bae'r Foryd yng Ngwynedd.
Harbwr Y Foryd gyda'r llanw i mewn.
Yr harbwr ger y Rhyl.

Hanes golygu

Mae'r Foryd yn ffurfio harbwr naturiol, un o'r ychydig rai ar y rhan yma o'r arfordir. Ar un adeg roedd cychod o faint pur sylweddol yn medru cyrraedd i fyny'r afon i dref Rhuddlan a gwelid llawer o dramwyo trwy'r Foryd yn yr Oesoedd Canol. Doedd dim pier yn yr harbwr ar ddechrau'r 19g. Roedd y Rhyl yn dechrau datblygu fel canolfan gwyliau glan môr ac roedd y llongau o Lerpwl yn angori ger traeth y Rhyl a byddai pysgotwyr lleol yn cludo'r teithwyr i'r lan. Erbyn 1831 roedd gwasanaeth llongau ager rheolaidd yn bodoli ac felly codwyd pier bychan yn y Foryd. Hwyliai 'gwasanaeth paced' rhwng Lerpwl a Rhuddlan. Byddai nwyddau fel grawn yn cael eu cludo hefyd, yn ogystal â theithwyr. Arosodd y Foryd y brif ffordd i deithwyr o ogledd-orllewin Lloegr gyrraedd y Rhyl tan 1848 pan agorodd gorsaf reilffordd y Rhyl. Cofnodir i dros 30 o longau hwyliau gael eu hadeiladu yn y Foryd yn hanner cyntaf y 19g.[1] Heddiw mae'r harbwr yn angorfa boblogaidd.

I'r de-orllewin o'r Foryd ceir Morfa Rhuddlan, safle brwydr rhwng y Cymry a'r Eingl-Sacsoniaid yn yr Oesoedd Canol Cynnar.

Pontydd golygu

 
Pont y Foryd

Mae Pont y Foryd yn dwyn y ffordd A548 dros yr afon gan gysylltu'r Rhyl gyda Bae Cinmel a Tywyn dros yr afon i'r gorllewin. Ger y bont ar y lan ddwyreiniol ceir y Marine Lake gyda'i rheilffordd fach a safle cyn barc hwyl y Rhyl; caewyd y parc rhai blynyddoedd yn ôl ac mae cynllun ar y gweill i godi fflatiau moethus a siopau yno.

Tua chwarter milltir i'r de o Bont y Foryd mae pont reilffordd haearn bwrw yn dwyn Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru dros Afon Clwyd.

Bwriedir codi trydedd bont dros y Foryd. Bydd y bont 80 metr hon ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn cael ei chodi gyda chymorth grant gan yr elusen cludiant cynaliadwy Sustrans ac arian gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Penodwyd y cwmni i'w hadeiladu ar Fehefin 5 2009. Mae'n rhan o gynllun uchelgeisiol i ddatblygu'r harbwr a'i chylch sydd yn ei dro yn rhan o gynllun ehangach - a dadleuol weithiau - i weddnewid y Rhyl a elwir yn "Y Rhyl yn Symud Ymlaen".[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Jim Roberts, North Wales Transport (Sutton, 1998), tud. 95.
  2. "Cyngor Sir Ddinbych". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-28. Cyrchwyd 2010-02-26.

Dolen allanol golygu