Pontblyddyn
Pentref bach y tu allan i Goed-Llai yn Sir y Fflint ydyw Pontblyddyn ( ynganiad ). Mae Pontblyddyn yn cael ei chynnwys yng nghyffiniau Coed-Llai. Yn y pentref mae tafarn o'r enw 'Tafarn y Bont' a chlwb criced. Mae Afon Alun yn llifo trwy'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Hannah Blythyn (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Rob Roberts (Ceidwadwyr).[1][2]
Math |
pentref ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Leeswood a Pontblyddyn ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.1369°N 3.0831°W, 53.1369°N 3.0831°W ![]() |
Cod OS |
SJ275605 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au | Rob Roberts (Ceidwadwyr) |
![]() | |
HanesGolygu
Mae llawer yn meddwl bod enw'r pentref yn dod o'r geiriau 'Pont' + 'Bleddyn'. Er hyn, cred y llawer mai o ffurf 'Pontbleiddyn' ydyw'r enw yn wreiddiol. Nid oes cofnodion na thystiolaeth sy'n cynnwys y wybodaeth yma ond, er hynny, nid oes damcaniaeth arall o gwbl sy'n cynnig tarddiad gwahanol.
Mae'r tŷ 'Y Fferm' yn sefyll yn y pentref ac yn arddangos arfbais Sir y Fflint ar ei drws. Hen adeilad Cyngor Sir y Fflint ydoedd, cyn iddo gael ei symud i adeilad newydd yn Yr Wyddgrug.
Dolenni allanolGolygu
- (Saesneg) Lluniau hen gardiau post o Bontblyddyn
Abermorddu · Afon-wen · Babell · Bagillt · Bistre · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Bwcle · Caergwrle · Caerwys · Carmel · Cefn-y-bedd · Cei Connah · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Y Fflint · Ffrith · Ffynnongroyw · Glan-y-don · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield-y-Waun · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hob · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanferres · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Mynydd y Fflint · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Ffwrndan · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Queensferry · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-ceirw · Rhydymwyn · Saltney · Saltney Ferry · Sandycroft · Sealand · Shotton · Sychdyn · Talacre · Treffynnon · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Yr Wyddgrug · Ysgeifiog
- ↑ Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014