Plas Teg
Plasty Jacopeaidd rhwng pentrefi'r Hôb a Phontblyddyn, Sir y Fflint yw Plas Teg a godwyd gan Sion Trevor (1563–1630) tua 1610.[1]
Plas Teg | |
---|---|
![]() | |
Gwybodaeth gyffredinol | |
Statws | Grade I |
Math | Plasty |
Arddull bensaernïol | Arddull Jacobeaidd |
Lleoliad | Ar ymyl yr A541 (CH7 4HN) |
Cyfeiriad | 1km i'r dwyrain o Goed-llai; 2km i'r gogledd-orllewin o'r Hôb |
Gwlad | Cymru |
Codiad | 100m |
Torri'r dywarchen gyntaf | 1610 |
Cynllunio ac adeiladu | |
Perchennog | Preifat |
Adeilad rhestredig – Graddfa I | |
Dyddiad cofrestru | 14 Chwefror 1952 |
Gwefan | |
http://plasteg.com/index.php/history/ |
Roedd Sion Trevor (neu John Trevor yn ddiweddarach yn ei oes) yr ail fab hynaf i Sion Trefor (m. 1589), Trefalun, y ceir cofeb alabaster iddo yn Eglwys Gresffordd. Ar y gofeb honno, disgrifir ei blant, a dyma'r disgrifiad o Sion:
- Golygwr ar Lynges ardderchawg y Frenhines, yr hwn a briododd Marged merch Hywel Trevanian o (?)arihays yn Gernyw, Ysgweier, vab Syr Hyw Trevanian, Marchog ar ol ei dad.
Ceir cerddi am faenordy cyharach ar y safle hwn gan feirdd y 15g. Dengys arolwg Robert Eggerley o arglwyddiaeth y Waun yn 1391-2 fod tiroedd Ednyfed Gam wedi eu rhannu rhwng ei etifeddion a bod Dafydd ab Ednyfed Gam yn berchen ar dir yn nhrefgordd Bryncunallt a Phlas Teg yn yr Hôb, "lle y byddai ei orwyr, Robert Trefor ap Siôn Trefor, yn trigo yn y dyfodol".[2]
Hwn oedd prif gartref Sion, ac defnyddiai'r tŷ'n aml i groesawu gwahoddedigion yno, yn enwedig rhai o brif gyfreithwyr Llundain. Fel ei frodyr, roedd yn Bengryniad pybyr. Bu farw yn 1629 a Marged ei wraig ar ei ôl; ddwy flynedd wedi hynny anrhaethwyd yr adeilad pan ymosododd y Cadfridog Brereton a Phengryniaid eraill ar yr ardal.
Ni newidiwyd llawer ar Blas Teg hyd at ddiwedd y 18g pan ychwanegwyd rhai adeiladau allanol gan y Fonesig Jane Dacre. Tua 1823-4 gweddnewidiwyd y lle gan Charles Blayney Trevor-Roper gyda chryn newidiadau strwythurol, ond gadw'r hen naws.[3]
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Hayward, Will. "These houses helped shape Wales' history but are now crumbling". Wales Online.
- ↑ gutorglyn.net; adalwyd 12 Chwefror 2017.
- ↑ britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 12 Chwefror 2017.
LlyfryddiaethGolygu
- E Hubbard, Clwyd, 1986, pp376–377;
- RCAHMW, Sir y Fflint, 1912, p48 (133);
- M Girouard, erthygl yn Country Life, 19 Gorffennaf 1962;
- P Smith, Houses of the Welsh Countryside, 1988, tt225-229, fig 133, pl 72, mapiau 49, 53;