Coed-llai
Pentref a chymuned yn Sir y Fflint yw Coed-llai ( ynganiad ) (Saesneg: Leeswood). Saif ger y briffordd A5104, i'r de-ddwyrain o dref Yr Wyddgrug. Gerllaw mae Neuadd Pentrehobyn, tŷ sy'n dyddio o ddechrau'r 17g.
Math |
pentref, cymuned ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Leeswood a Pontblyddyn ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.133°N 3.095°W ![]() |
Cod OS |
SJ267601 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au | Rob Roberts (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Yng nghyffiniau Coed-llai ceir pentrefi Pontybotgyn, Pontblyddyn a Choed-talon. Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Hannah Blythyn (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Rob Roberts (Ceidwadwyr).[1][2]
HanesGolygu
Does dim llawer o wybodaeth am hanes enw y pentref. Mae'r llyfr Leeswood Past and Present, 2005 yn cynnwys gwybodaeth hanesyddol am y pentref ac yn dangos cofnodion o'r hen enwau. Roedd y pentref yn ganolbwynt i Derfysg Yr Wyddgrug ym 1869. Yn ogystal â rheolwr y pyllau glo yn yr ardal, John Young o Durham, yn gwneud i bobl weithio am lai o gyflog, dywedodd na chaiff gweithwyr ddefnyddio'u Cymraeg wrth weithio. Roedd hyn yn ddigon i weithwyr Coed-llai a'r cyffiniau ddechrau terfysg yn erbyn eu triniaeth. Yn y 18g, bu'r barwniaid Wynne yn byw yn Neuadd Coed-llai. Gellir dilyn eu llinach yn ôl at Owain Glyndŵr, ac yn ogystal felly, hen Deyrnasoedd Cymru. Adeiladwyd Gatiau Gwynion Coed-llai gan y brodyr Davies o Wrecsam yn y 18g. Crefft y brodyr oedd haearn.
Cynhelwyd Eisteddfod yno ym 1921, ac mae'r gadair yn cael ei chadw ym mynedfa'r ysgol gynradd.
Yn 2015, cynhelwyd Carnifal a Pharêd yng Nghoed-llai am y tro cyntaf wedi bwlch o chwe mlynedd ar hugain. Daeth tua 1,500 o bobl i weld yr achlysur yn ei wedd newydd.
AddysgGolygu
Yn y pentref mae'r ysgol gynradd, Ysgol Derwenfa.
Sillafiad yr EnwGolygu
Mae llawer o sillafiadau gwahanol ar gael i'w gweld yng Nghoed-llai ac o'i chwmpas ond, yn ôl Geiriadur yr Academi a llyfrau eraill am enwau llefydd yng Nghymru, 'Coed-llai' ydyw'r sillafiad cywir.[3] Mae angen cyplysnod rhwng yr elfennau 'coed' a 'llai,' ac nid oes angen prif lythyren ar ddechrau'r gair 'llai'.
Cyfrifiad 2011Golygu
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Dolenni allanolGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 809 [Leeswood].
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Abermorddu · Afon-wen · Babell · Bagillt · Bistre · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Bwcle · Caergwrle · Caerwys · Carmel · Cefn-y-bedd · Cei Connah · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Y Fflint · Ffrith · Ffynnongroyw · Glan-y-don · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield-y-Waun · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hob · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanferres · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Mynydd y Fflint · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Ffwrndan · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Queensferry · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-ceirw · Rhydymwyn · Saltney · Saltney Ferry · Sandycroft · Sealand · Shotton · Sychdyn · Talacre · Treffynnon · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Yr Wyddgrug · Ysgeifiog