Claytonia sibirica
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau craidd
Urdd: Caryophyllales
Teulu: Montiaceae
Genws: Claytonia
Rhywogaeth: C. sibirica
Enw deuenwol
Claytonia sibirica
Carl Linnaeus

Planhigyn blodeuol blynyddol, bychan yw Porpin pinc sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Montiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Claytonia sibirica a'r enw Saesneg yw Pink purslane.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Gwlyddyn Rhudd.

Planhigyn blynyddol neu luosflwydd sy'n tyfu mewn mannau tamp lled foel. Yn aml fe'i ceir mewn coedlannau agored neu wrychoedd, neu wrth nentydd cysgodol lle ceir ei olchi i lawr gyda'r dŵr i fannau newydd[2]

Hanes ym Mhrydain golygu

Yn ol yr Atlas Newydd Fflora Prydain roedd yn cael ei dyfu ym Mhrydain erbyn 1768 ac fe sylwyd arno gyntaf yn y gwyllt yn 1838[2]

Ecoleg golygu

Gall wladychu coedlannau, a goresgyn llusdyfiant arall gan ei ddeiliach toreithiog îr, sydd yna yn disgyn ar blanhigion eraill wrth ei ymyl[2].

Dosbarthiad golygu

Wedi ymledu dros Ogledd Orllewin Ewrop yn eang. Cynyddu ym Mhrydain. Clytiog yng Nghymru yn yr iseldir. Yn cyrraedd 425m yng Nghymbria[2].

Tras golygu

Mae'n gynhenid i ddwyrain Asia a gorllewin Gogledd America[2].

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Preston, Pearson & Dines (2002) New Atlas of the British Flora Gwasg Prifysgol Rhydychen
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: