Porth Ty Mawr
Traeth caregog ar arfordir ogleddol Llŷn, Gwynedd, Cymru, yw Porth Tŷ Mawr ym nghymuned Llangwnnadl, rhwng Porth Colmon a Rhwngyddwyborth, cyfeirnod grid OS 1882 3306, lledred 52.8644°G, hydred 4.6929°Gn. Arferid medru cyrraedd Porth Tŷ Mawr ar hyd ffordd drol o fferm Tŷ Mawr, Llangwnnadl, gan droi oddi ar y ffordd o Benygraig i Fethlem, Rhydlïos, ac mae llwybr troed o hyd yn bodoli. Enw'r hen ffordd drol oedd Ffordd Tŷ Mawr Llangwnnadl. Mae hen dyddyn Tŷ Mawr yno hyd heddiw ac mae wedi ei gofrestru fel Adeilad Gradd #2 oherwydd ei fod bellach yn enghraifft prin o ffermdy yn y ffurf hwyr-Siorsiadd o fewn yr ardal.[1]
Math | traeth |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Cyfesurynnau | 52.8644°N 4.6929°W |
Mae posib cyrraedd Porth Tŷ Mawr drwy ddilyn Llwybr Arfordir Cymru o'r naill gyfeiriad (Porth Colmon neu Rhwngyddwyborth) ond mae gofyn bod yn ofalus iawn wrth gyrraedd i lawr i'r traeth ei hun o'r llwybr gan nad oes modd ei gyrraedd heb ddibynnu ar sgrialu i lawr yr allt bellach.
Ar drai, mae posib dod o hyd i rannau o longddrylliad llong hwylia'r Stewart yn 1901. Roedd y Stewart ar ei ffordd o Lerpwl i Seland Newydd hefo'i chriw ifanc o 19 a'i llwyth o bianos, crochenwaith, canhwyllau a wisgi. Bu cryn cynnwrf yn lleol ar ddeall am lwyth y llong a'i faluriwyd ar greigiau Porth Tŷ Mawr, yn enwedig pan ddeallwyd fod wisgi ar ei bwrdd. Aeth y gair ar led ynglŷn a'r wisgi ac fe wnaeth y bobl leol y gorau o'r amgylchiadau ac ysbeilwyd yr alcohol. Dyma beth oedd gan Griffith Griffiths, gwr lleol i'w adrodd am yr hanes yn ei lyfr 'Blas Hir Hel';
" Ar yr ochr orllewinol i'r cerrig hyn y daeth y llong Stewart i'r lan yn y flwyddyn 1901......Lladratwyd nifer o bethau ohoni; roedd pobl yn eu cuddio yn yr eithin a'r cloddiau, ac yn mynd nôl fel y deuai cyfle. Dywedir bod Elin Morfa wedi pwytho godre ei gown a'i phais yn ei gilydd i wneud rhyw fath ar boced i gludo ei photeli adref. Daeth plismon ar ei gwarthaf a hithau ar gychwyn efo'i baich, ond heriodd Elin ef i fynd dan ei dillad! A chafodd fynd â'i hysbail adref mewn heddwch....Daeth llong arall, y Sorento, i'r lan yn yr un man yn y flwyddyn 1870." [2]
Yn dilyn hyn fe enillodd y traeth ail enw, sef 'Porth Wisgi'. Erbyn heddiw mae o hyd ddarnau o'r Stewart i'w darganfod ar draeth Porth Tŷ Mawr a hyd yn oed dameidiau o'r llestri glas a gwyn ymysg y gro a'r gwymon.
Gweler hefyd o ran diddordeb lleol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Ty Mawr A Grade 2 Listed Building in Tudweiliog, Gwynedd". British Listed Buildings. Cyrchwyd 15 Mai 2020.
- ↑ Griffiths, Griffith (1976). Blas Hir Hel. Dinbych: Gwasg Gee. tt. 93, 94.