Llangwnnadl
Pentref bach yng nghymuned Tudweiliog, Gwynedd, Cymru, yw Llangwnnadl ( ynganiad ) (neu Llangwnadl). Saif ym mhen gorllewinol Llŷn tua milltir o'r môr rhwng Aberdaron a Nefyn ar ochr ogleddol pen eithaf penrhyn Llŷn. O'r pentref mae lôn gul yn arwain i lawr i Borth Golman ar lan bae agored traeth Penllech a'i draethau tywod braf.
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.86°N 4.66°W ![]() |
Cod OS | SH208331 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]
Yr eglwysGolygu
Ymddengys fod yr enw presennol yn llygriad o'r enw 'Llangwynhoedl', sef llan y sant Gwynhoedl y dywedir bod ganddo gapel neu gell feudwy yno yn y 6g.
Mae'r eglwys bresennol yn dyddio o tua diwedd yr Oesoedd Canol ond mae'n cynnwys yn ei fur deheuol garreg fawr â cherflun o groes o fewn cylch arni, sy'n dyddio efallai o'r 6g. Cafodd yr eglwys ei hadnewyddu yn 1850 ond mae'n cadw rhai nodweddion a chofebion hynafol. Yn ôl traddodiad claddwyd y sant ei hun yn yr eglwys, neu ar ei safle, a cheir arysgrif ynddi mewn llythrennau Gothig sy'n darllen Ihc S Gwynhoydl iacet hic ("Mae Sant Gwynhoedl yn gorffwys yn yr eglwys hon").
Ar un adeg roedd gan yr eglwys hen gloch Geltaidd ond fe'i diogelir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd bellach.
EnwogionGolygu
Roedd yr awdur J.G. Williams (1915-1987) yn frodor o Langwnadl. Mae'n sôn am yr ardal yn ei hunagofiant arbennig Pigau'r Sêr.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr