Porthenys
Pentref a phorthladd pysgota yng Nghernyw, De-orllewin Lloegr, yw Porthenys (Saesneg: Mousehole[1] (Cernyweg: Porthenys).[2] Cyfeiria'r enw Cernyweg at ynys fechan St Clement's, ger yr harbwr. Lleolir y pentref ym mhlwyf sifil Penzance, ar ben de-ddwyreiniol Cernyw, ger Newlyn.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cernyw (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 50.083°N 5.539°W |
Cod OS | SW468264 |
Cod post | TR19 |
Roedd Dolly Pentreath (bu farw yn 1777) yn byw ym mhlwyf Paul, sy'n cynnwys y pentref. Dywedir yn aml mai hi oedd y siaradwr Cernyweg olaf.
Heddiw mae'r pentref yn wynebu cyfnod o newid oherwydd y cynnydd mewn "tai haf" yno. Un enghraifft o hyn yw hanes hen westy hanesyddol y Lobster Pot ar yr harbwr. Yn 1938 treuliodd y bardd Cymreig Dylan Thomas a'i wraig newydd Caitlin MacNamara eu mis mêl yno ar ôl priodi yn Penzance. Yn ddiweddar trowyd y Lobster Pot yn fflatiau moethus sydd y tu hwnt i gyrraedd y mwyafrif o bobl leol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 24 Hydref 2019
- ↑ Maga Cornish Place Names Archifwyd 2017-06-01 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 24 Hydref 2019
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Archifau MouseholeArchifwyd 2007-09-30 yn y Peiriant Wayback ar wefan y Cornwall Records Office.