Drama-gomedi Saesneg ar gyfer plant oedd Press Gang. Bu pum cyfres ohono a chyfanswm o 43 o raglenni a gafodd eu darlledu rhwng 1989 a 1993. Cafodd ei gynhyrchu gan Richmond Film & Television ar gyfer Central, a chafodd ei ddarlledu ar rwydwaith ITV yn ystod yr oriau teledu plant, Children's ITV.[1]

Press Gang

Siot sgrîn o deitlau "Press Gang"
Genre Dramedi
Serennu Julia Sawalha
Dexter Fletcher
Lee Ross
Kelda Holmes
Paul Reynolds
Lucy Benjamin
Gabrielle Anwar
Mmoloki Chrystie
Joanna Dukes
Charlie Creed-Miles
Gwlad/gwladwriaeth Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 5
Nifer penodau 43
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 25 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol ITV
Darllediad gwreiddiol 16 Ionawr, 198921 Mai, 1993

Anelwyd y rhaglen at blant hŷn ac arddegwyr, a dilynai hynt a helynt criw o ddisgyblion ysgol a oedd yn creu papur newydd i blant, y Junior Gazette, a gynhyrchwyd gan ddisgyblion yr ysgol gyfun leol. Yn y cyfresi dilynol, darluniwyd y papur fel menter mwy masnachol. Cyfunai'r sioe elfennau o gomedi gydag elfennau mwy dramatig. Yn ogystal ag ymdrin â pherthynasau rhyngbersonol (yn benodol perthynas Lynda a Spike), ymdriniai'r sioe â materion fel camddefnydd o gyffuriau, camdriniaeth o blant a defnydd o ynnau.[2]

Ysgrifennwyd y sioe gan gyn-athro, Steven Moffat, a chafodd dros hanner y rhaglenni eu cyfarwyddo gan Bob Spiers, cyfarwyddwr comedi Prydeinig nodedig a oedd wedi gweithio ar gomedïau eraill megis Fawlty Towers. Derbyniodd y sioe feirniadaeth gadarnhaol iawn, yn enwedig am safon y sgript, ac arweiniodd hyn at rhyw fath o statws cwlt i'r sioe.[1]

Cyfeiriadau

golygu