Priaulx Rainier

cyfansoddwr a aned yn 1903

Cyfansoddwraig Seisnig oedd Priaulx Rainier (3 Chwefror 190310 Hydref 1986). Cafodd ei geni yn Howick, Natal, De Affrica.

Priaulx Rainier
Ganwyd3 Chwefror 1903, 3 Chwefror 1905 Edit this on Wikidata
Howick Edit this on Wikidata
Bu farw10 Hydref 1986 Edit this on Wikidata
Besse-et-Saint-Anastaise Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, De Affrica Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfansoddwr, athro cerdd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Cafodd ei magu yn Ne Affrica, lle dysgodd i chwarae'r feiolin. Yn 1920, yn 17 oed, enillodd ysgoloriaeth i'r Academi Gerdd Frenhinol, Llundain, lle astudiodd gyda Rowsby Woof a Syr John Blackwood McEwen. O'r amser hwnnw roedd yn byw yn Llundain, yn ennill ei bywoliaeth fel feiolinydd ac athrawes. Yn 1937 astudiodd gyda Nadia Boulanger ym Mharis.

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddor. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.