League of European Research Universities

Cymdeithas prifysgolion ymchwil yn Ewrop

Mae League of European Research Universities (LERU) yn rhwydwaith o brifysgolion Ewropeaidd sy'n ymroddedig i ymchwil flaengar.

League of European Research Universities
Enghraifft o'r canlynoluniversity network Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2002 Edit this on Wikidata
PencadlysLeuven Edit this on Wikidata
RhanbarthLeuven Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.leru.org Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn 2002, sefydlodd 12 prifysgol y gymdeithas yn Leuven, Gwlad Belg. Ers 2010 mae 21 o aelodau. Dim ond trwy wahoddiad gan LERU y gellir ymaelodi.

Ym mis Ionawr 2017, ymunodd Coleg y Drindod Dulyn a Phrifysgol Copenhagen â LERU. Heddiw mae ganddi 23 o aelodau.[1] NId oes un o brifysgolion Cymru yn aelod. Mae nifer o'r aelodau hefyd yn aelodau o gymdeithas brifsgolion Ewropeaidd arall tebyg, Grŵp Coimbra.

Hanes a throsolwg

golygu

Mae Cynghrair y Prifysgolion Ymchwil Ewropeaidd (LERU) yn gymdeithas o brifysgolion ymchwil-ddwys. Wedi'i sefydlu yn 2002, fel partneriaeth rhwng deuddeg o brifysgolion ymchwil aml-gyfadran, yn 2017 ehangodd ei haelodaeth i dair ar hugain. Fel yr ychwanegiadau diweddaraf, ymunodd Coleg y Drindod Dulyn a Phrifysgol Copenhagen â’r gynghrair ar 1 Ionawr 2017. Pwrpas y Gynghrair yw dylanwadu ar bolisi yn Ewrop a datblygu arfer gorau trwy gyfnewid profiad ar y cyd. Mae LERU yn cyhoeddi amrywiaeth o bapurau ac adroddiadau yn rheolaidd sy’n gwneud datganiadau polisi lefel uchel, yn darparu dadansoddiadau ac yn gwneud argymhellion ar gyfer llunwyr polisi, prifysgolion, ymchwilwyr a rhanddeiliaid eraill.

Mae pencadlys LERU yn Leuven. Yr Athro Dr Kurt Deketelaere[2] yw'r Ysgrifennydd Cyffredinol presennol. Yr Athro Yves Flückiger yw'r Cadeirydd presennol.

Aelodaeth

golygu
 
Prifysgol Catholig Leuven (KU Leven), man sefydlu'r LERU

Y 23 aelod-brifysgol yn 2017 oedd:

  Gwlad Belg

  Denmarc

  Ffindir

  Ffrainc

  Yr Almaen

  Iwerddon

  Yr Eidal

  Yr Iseldiroedd

  Sbaen

  Sweden

  Y Swistir

  Y Deyrnas Unedig

Cyn aelodau

golygu

  Sweden

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-05. Cyrchwyd 2023-03-05.
  2. "Secretary-General - LERU : League of European Research Universities". leru.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-01. Cyrchwyd 2023-03-05.
  Eginyn erthygl sydd uchod am brifysgol neu addysg uwch. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gysylltiadau rhyngwladol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.