John Parry (golygydd)
- Am bobl eraill o'r un enw gweler John Parry.
Athro a golygydd oedd John Parry (23 Mawrth 1812 – 19 Ionawr 1874), a gofir yn bennaf fel prif olygydd Y Gwyddoniadur Cymreig. Roedd yn fab-yng-nghyfraith i Thomas Gee, cyhoeddwr y gwyddoniadur hwnnw.[1]
John Parry | |
---|---|
Ganwyd | 23 Mawrth 1812 Wrecsam |
Bu farw | 19 Ionawr 1874 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athro, golygydd, gweinidog yr Efengyl |
Bywgraffiad
golyguGanwyd John Parry ger Wrecsam yn 1812. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg y Bala a Phrifysgol Caeredin. Yn 1843 penodwyd ef yn athro yng Ngholeg y Bala a bu'n gweithio yno am ran helaeth gweddill ei oes. Bu farw yn 1874.[2]
Cofir Parry fel prif olygydd Y Gwyddoniadur Cymreig (neu'r Encyclopaedia Cambrensis), y gwaith gwyddoniadurol mwyaf uchelgeisiol erioed yn yr iaith Gymraeg. Dan olygyddiaeth Parry hyd ei farwolaeth, cafodd ei gyhoeddi mewn deg cyfrol rhwng 1854 a 1879 gan Thomas Gee ar ei wasg enwog yn nhref Dinbych (Gwasg Gee).[2] Erys y cyhoeddiad mwyaf yn y Gymraeg hyd heddiw.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-lein
- ↑ 2.0 2.1 D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a Llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Lerpwl, 1922).