Friedrich Schelling
Athronydd o'r Almaen oedd Friedrich Wilhelm Joseph Schelling (27 Ionawr 1775 – 20 Awst 1854), yn ddiweddarach von Schelling. Mae llyfrau hanes cyffredinol athroniaeth yn gosod Schelling hanner ffordd yn natblygiad delfrydiaeth Almaenig, gan ei osod rhwng Johann Gottlieb Fichte, ei fentor cyn 1800, a Friedrich Hegel, ei gyfaill a arferai rannu ystafell gydag ef yn y brifysgol. Yn ei athroniaeth, a elwir Naturphilosophie, mae'n llunio natur fel un organeb ac fel ffurf weladwy ar yr ysbryd, ac yn yr un modd, trinnir ysbryd fel natur anweladwy.
Friedrich Schelling | |
---|---|
Daguerroteip o Friedrich Schelling (1848) | |
Ganwyd | Friedrich Wilhelm Joseph Schelling 27 Ionawr 1775 Leonberg |
Bu farw | 20 Awst 1854 Bad Ragaz |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Württemberg |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athronydd, academydd, llenor |
Swydd | athro cadeiriol |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | The Ages of the World |
Prif ddylanwad | Platon, Giordano Bruno, Jakob Böhme, Baruch Spinoza, Gottfried Wilhelm Leibniz, Immanuel Kant, Jean-Baptiste Robinet, Friedrich Heinrich Jacobi, Johann Gottfried von Herder, Johann Wolfgang von Goethe, Friedrich Hölderlin, Johann Gottlieb Fichte |
Mudiad | German idealism |
Priod | Pauline Gotter, Caroline Schelling |
Plant | Clara Schelling, Hermann Schelling, Julie von Eichhorn |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf |
llofnod | |
Ganed ef yn Leonberg, Dugiaeth Württemberg, a oedd yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, ac astudiodd ym Mhrifysgol Tübingen. Yn ôl cyngor Goethe, penodwyd Schelling yn athro athroniaeth ym Mhrifysgol Jena ym 1798, ac yno bu'n cysylltu â ffigurau amlyca'r mudiad Rhamantaidd Almaenig, yn eu plith Novalis, Ludwig Tieck, a'r brodyr Schlegel. Ar y cychwyn, disgybl o ddelfrydiaeth Fichte ydoedd, cyn iddo ddatblygu ei syniadau yn annibynnol. Ymhlith ei weithiau cynnar mae Ideen zu einer Philosophie der Natur (1797), System des transcendentalen Idealismus (1800), a Philosophische Untersuchungen (1809). Aeth ei waith yn fwyfwy at gyfeiriadau cyfriniaeth a lled-grefydd, gan golli rhywfaint o eglurder ei ysgrifennu, a dioddefai ei enw o ganlyniad i ddifrïaeth oddi wrth ei hen gyfaill Hegel.
Mae dehongli athroniaeth Schelling yn medru bod yn anodd yn aml am fod natur yr athroniaeth yn newid yn gyson. Caiff ei bortreadu gan rai ysgolheigion fel meddyliwr protean a oedd, er yn wych, yn dueddol o neidio o'r naill bwnc i'r llall, am nad oedd ganddo'r pŵer syntheisio i gyrraedd system athronyddol cyflawn. Mae eraill yn herio'r syniad fod meddyliau Schelling yn cael eu nodweddu gan seibiau dwys gan ddadlau fod ei athroniaeth bob amser yn ffocysu ar themâu cyffredin, yn enwedig rhyddid dynol, yr hyn sy'n bendant neu'n absoliwt, a'r berthynas rhwng natur ac ysbryd neu anian.
Cynhwysir syniadau Schelling ynghylch perthynas y meddwl â natur gan Samuel Taylor Coleridge, heb gydnabyddiaeth, yn ei Biographia Literaria (1817).