Prifysgol Genedlaethol Lesotho

prifysgol gwlad Lesotho

Prifysgol Genedlaethol Lesotho yw unig brifysgol gwlad Lesotho yn neheudir Affrica. Lleolir yn nhref Roma sydd tua 34 km i'r de-ddwyrain o Maseru, prifddinas y wlad.[1]

Medfa Adeilad weindyddol Prifysgol Genedlaethol Lesotho
Medfa Adeilad weindyddol Prifysgol Genedlaethol Lesotho
Campws y Brifysgol

Hanes golygu

Coleg Prifysgol Gatholig y Pab Pïws XII golygu

Yn 1938, penderfynodd Synod Esgobion Catholig De Affrica sefydlu Coleg Catholig. Ar 8 Ebrill 1945 yn Rhufain cyhoeddwyd y penderfyniad i greu Coleg Prifysgol Gatholig Pïws XII a enwyd wedi'r Pab Pïws XII. Fe'i lleolwyd dros dros yn adeilad yr ysgol gynradd yn Roma.

Ym 1946, symudwyd y Coleg i'r adeiladau presennol a adeiladwyd ar tua deg a hanner erw o dir. Yn 1950, cyflwynwyd Congregation o Oblates Mary Immaculate (OMI) i'r Coleg Prifysgol Catholig.[2] myfyrwyr a baratowyd Coleg i gael cymwysterau allanol a ddyfernir gan Brifysgol De Affrica (UNISA).[1]

Prifysgol Basutoland, Gwarchodiaeth Bechuanaland a Gwlad Swaziland (UBBS) golygu

Ar 1 Ionawr 1964, trawsnewidiwyd y Coleg i fod yn Brifysgol anenwadol Basutoland, Gwarchodaeth Bechuanaland a Swaziland (University of Batusoland, Bechuanaland Protectorate and Swaziland), ac yn 1966, wedi annibyniaeth y gwledydd o Brydain, a newid enwau'r gwledydd rhydd newydd, yn Brifysgol Botswana, Lesotho a Swaziland (University of Botswana, Lesotho and Swaziland, UBLS). Derbyniodd y brifysgol ei statud ei hun a roddwyd iddi gan Elizabeth II.

Prifysgol Genedlaethol Lesotho golygu

Ar 20 Hydref 1975, naw mlynedd wedi ennill annibyniaeth Lesotho, sefydlwyd y prifysgol genedlaethol annibynnol - Prifysgol Genedlaethol Lesotho (National University of Lesotho)[1]. Pasiwyd y penderfyniad yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Ddeddf Rhif 13 o 1975. NUL yw olynydd Coleg Prifysgol Pius XII a'r UBLS gan etifeddu ei thir a'u hadeiladau.

Iaith golygu

Er gwaethaf yr arwyddais Nete ke Thebe ("Tarian yw'r Gwir") yn yr iaith Sesotho, ymddengys o wefan y Brifysgol fod yr holl ddysgu a gweinyddu swyddogol yn yr iaith Saesneg yn unig a dim yn yr iaith genedlaethol a iaith cartref 85% o frodorion Lesotho. Efallai, fod hynny'n rannol esbonio canlyniadau gwael y brifysgol mewn sawl pwnc.

Cyfadrannau golygu

Mae gan y Brifysgol 7 cyfadran:[3]

Cyfadran Amaethyddiaeth
Cyfadran Addysg
Cyfadran y Gwyddorau Iechyd
Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol
Cyfadran y Dyniaethau
Cyfadran y Gyfraith
Cyfadran Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Cangellorion y Brifysgol golygu

Perfformiad academaidd golygu

Ym Mehefin 2011, adroddodd y Lesotho Times bod hanner y myfyrwyr mewn tri o'r saith gyfadran yn y Brifysgol wedi methu eu haroliadau.[5] Roedd yr "unprecedented failure rate" yng nghyfadrannau'r Gyfraith, Gwyddor Iechyd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Llyfrgell golygu

Roedd y llyfrgell yn rhan annatod o hen Goleg Pïws XII o ddechrau ei fodolaeth. Adeiladwyd y llyfrgell presennol yn 1964. Ym 1979, pan ddaeth yn Llyfrgell NUL, derbyniodd enw Thomas Mofolo. Yn ogystal â chasgliadau llyfrgell confensiynol, mae'n rhedeg archif, yn casglu dogfennau, ac mae ganddi adran amgueddfa hefyd.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-11. Cyrchwyd 2013-12-11.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-01. Cyrchwyd 2018-10-04.
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-31. Cyrchwyd 2014-03-31.
  4. http://www.nul.ls/nul-history/
  5. http://www.lestimes.com/half-of-nul-students-fail/

Dolenni allanol golygu