Sesotho

iaith Affrica

Mae Sesotho (a elwir hefyd yn Sotho, Sotho Deheuol, neu De Sotho [1]) yn iaith De Bantw o grŵp Sotho-Tswana (S.30, yn ôl tabl dosrannu'r ieithoedd Bantu), a siaredir gan mwyaf yn Ne Affrica, lle mae'n un o'r 11 iaith swyddogol ac yng ngwladwriaeth annibynnol Lesotho lle mae'n iaith genedlaethol. Dyma briod iaith y bobl Basotho sy'n trigo yn Ne Affrica a Lesotho.

Sesotho
Sesotho
Ynganiad IPA [sɪ̀sʊ́tʰʊ̀]
Siaredir yn Baner Lesotho Lesotho
Baner De Affrica De Affrica
Baner Simbabwe Simbabwe
Cyfanswm siaradwyr 5.6 miliwn
Teulu ieithyddol Atlantig-Congo
System ysgrifennu Gwyddor Ladin
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn Baner Lesotho Lesotho
Baner De Affrica De Affrica
Baner Simbabwe Simbabwe
Rheoleiddir gan Pan South African Language Board
Codau ieithoedd
ISO 639-1 st
ISO 639-2 sot
ISO 639-3 sot
Wylfa Ieithoedd

Fel pob iaith Bantw mae Sesotho yn iaith dodiadol sy'n defnyddio amryw o dodiadau a rheolau deilliannol a ffurfroadau i adeiladu geiriau cyflawn.

Dosbarthiad Ieithyddol

golygu
 
Dosbarthid daearyddol Sotho yn Ne Affrica; canran y boblogaeth sy'n siarad Sotho gartref.
 
Dosbarthiad daearyddiol y Sotho yn Ne Affrica: dwysedd siaradwyr Sotho fel iaith cartref.

Mae Sesotho yn iaith o gangen y Sotho-Tswana (parth S.30) sy'n rhan o deulu ieithyddol y De Bantw sydd yn ei hun yn tarddu ac yn rhan o'r tylwyth ieithyddol, perthyn i'r teulu Niger-Congo.

Mae "Sotho" hefyd yn enw a roddi'r i'r cyfan o grŵp Sotho-Tswana, ac yn yr achos hynny gelwir Sesotho ei hun yn "De Sotho". O fewn grŵp Sotho-Tswana mae Sesotho yn perthyn agosaf at Lozi (a elwir hefyd yn Silozi), lle mae'n creu is-grŵp y Sesotho-Lozi o fewn Sotho-Tswana.

Mae'r grŵp Gogledd Sotho yn ddaearyddol ac yn cynnwys nifer o dafodieithoedd sy'n perthyn i'r Sesotho-Lozi. Adnewbir yr iaith Setswana hefyd fel "Gorllewin Sesotho".

Mae'r grŵp Sotho-Tswana yn ei hun yn perthyn yn agos i'r ieithoedd De Bantw eraill sy'n cynnwys Venda, Tsonga, Tonga, a'r ieithoedd Nguni (Zulu, Xhosa, Ndebele ayyb) ac, o bosib, yr ieithoedd Makua (parth P) yn Tansanïa a Mosambic.

Mae'r gair Sotho yn olddodiad llwythol h.y. gelwir y bobl yn Sotho neu Basotho; tra bod Sesotho yn golygu "iaith y Basotho". Mae wedi dod yn gyffredin i arddel y term Sesotho am yr iaith yn hytrach na Sotho hyd yn oed ymysg siaradwyr ieithoedd tramor.

Dosbarthiad daearyddol

golygu

Yn ôl Cyfrifiad Cenedlaethol De Affrica 2011, roedd bron i b4 miliwn o siaradwyr Sesotho iaith gyntaf wedi'u cofnodi yn Ne Affrica - oddeutu 8% o'r boblogaeth. Mae'r rhan fwyaf o siaradwyr Sesotho yn Ne Affrica yn byw yn nhaleithiau 'Free State' a Gauteng. Sesotho hefyd yw'r brif iaith a siaredir gan bobl Lesotho, lle, yn ôl data 1993, fe'i siaradwyd gan tua 1,493,000 o bobl, neu 85% o'r boblogaeth. Mae'r cyfrifiad yn methu â chofnodi gallu ieithyddol llawn pobl De Affrica lle gall fod Sesotho yn ail neu drydydd iaith iddynt. Mae siaradwyr o'r fath i'w gweld ym mhob ardal breswyl o Fusnesau Metropolitan - megis Johannesburg, a Tshwane - lle mae amlieithrwydd yn uchel iawn.

Tsotsitaal

golygu

Mae Sesotho yn un o'r nifer o ieithoedd sydd wedi cyfrannu at greu'r lled-iaith neu 'rhyngiaith', Tsotsitaal. Gair Sesotho am leidr neu lowt yw "tsotsi" a'r gair Afrikaans am "iaith" yw 'taal'. Nid iaith ffurfiol mo Tsotsitaal, mae'n iaith gwaith a lingua franca a ddatblygwyd ymysg gweithwyr duon (a rheolwyr gwyn) sy'n defnyddio geirfa a gramadeg Sesotho a Zulu gan fwyaf. Mae'r lled-iaith y rhan o ddiwylliant ieuenctid ghettos de talaith Gauteng megis Soweto ac fe'i ddefnyddio mewn caneuon poblogaidd cerddoriaeth rap Kwaito.

Gramadeg

golygu

Y nodweddion mwyaf trawiadol o ramadeg Sesotho, a'r priodweddau pwysicaf sy'n ei ddatgelu fel iaith Bantu, yw ei system cenedl enwau a concórd ("cytuno"). Yn y concórd Sesotho (fel y rhan fwayf o ieithoedd Bantw, bydd berfau a rhagenwau yn cytuno gydag enwau (nouns). Nid yw'r system enwau Sesotho (fel ieithoedd Bantw) yn adnabod cenedl enwau yn seiliedig ar ryw benywaidd a gwrywaidd (fel ieithoedd Indo-Ewropeaidd megis Cymraeg, Ffrangeg ayyb).

Eiddo arall adnabyddus yr ieithoedd Bantu yw eu morffoleg dodiadol. Yn ogystal, maent yn tueddu i fod heb unrhyw systemau cyflyrau gramadegol, rhaid, felly, nodi ystyr enwau drwy eu trefn yn y frawddeg.

Person - Mosotho
Pobl - Basotho
Iaith - Sesotho
Gwlad - Lesotho

Statws Iaith

golygu
 
Dynes Mosotho yn dal arwydd mewn Sesotho mewnprotest yn erbyn trais yn erbyn menywod ar Ddiwrnod Cenedlaethol y Menywod ym Mhrifysgol Genedlaethol Lesotho. O'i gyfieithu, dywed, "os na wnewch chi wrando ar fenywod, byddwn yn colli'n amynedd gyda chi"

Mae Sesotho yn iaith gyntaf i 1.5 miliwn o bobl yn Lesotho, neu 85% o'r boblogaeth.[2] Sesotho yw un o ddwy iaith swyddogol Lesotho (gyda Saesneg).[2] Lesotho enjoys one of Africa's highest literacy rates, with 59% of the adult population being literate chiefly in Sesotho.[3]

Defnyddir Sesotho mewn amrywiaeth o adnoddau addysgol fel pwnc a hefyd fel cyfrwng iaith.[3] Fe'i defnyddir yn lafar ac yn ysgrifenedig ymhob haen o addysg o'r cyn-ysgol i astudiaethau doethurol yn y brifysgol.[3] Nodir bod anhawsterau'n dal i'w cael ym maes datblygu geirfa dechnegol ym meysydd technoleg gwybodaeth, gwyddoniaeth, mathemateg a'r gyfraith gan nad yw'r corpws o ddeunydd technegol ar gael yn Sesotho, neu, mae'n fychan iawn.[3]

Mae Sesotho wedi dabtlygu presenoldeb go helaeth ers diwedd Apartheid. Ceir Radio Lesedi sy'n orsaf radio 24 awr Sesotho fel rhan o ddarpariaeth Corfforaeth Ddarlledu De Affrica (SABC) sy'n darlledu'n unig yn yr iaith. Ceir hefyd gorsafoedd radio lleol yn ogystal ag ar draws Lesotho a'r Free State.[3] DArlledir rhaglenni newyddion hanner awr Sesotho yn ddyddiol ar orsafoedd teledu y llywodraeth. Mae'r ddarlledwr teledu annibynnol, eTV, hefyd yn cynnwys bwletin newyddion hanner awr yn Sesotho yn ddyddiol. Ceir hefyd amrywiaeth o raglenni ar SABC a grŵp eTV sy'n cynnwys peth deialog yn Sesotho.

Mae'r rhan fwyaf o bapurau newydd yn Lesotho wedi eu hysgrifennu gan fwayf yn Sesotho neu, yn Sesotho a Saesneg. Ceir un cylchgrawn prif-ffrwd Sesotho yn Ne Affrica, Bona ond does dim papur dyddiol llawn yn yr iaith heblaw am gylchlythyrau yn Qwaqwa, Fouriesburg, Ficksburg ac, o bosib, rhai trefi eraill yn y Free State.[3]

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Historically also misspelled Suto, or Suthu, Souto, Sisutho, Sutu, or Sesutu, according to the pronunciation of the name.
  2. 2.0 2.1 Central Intelligence Agency (n.d.) CIA-The World Factbook: Lesotho. Central Intelligence Agency. Retrieved 5-01-10 from https://www.cia.gov/library/publications/the-world-factbook/geos/lt.html Archifwyd 2007-06-12 yn y Peiriant Wayback
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 United Nations Scientific and Educational Council (UNESCO)(2000) World Languages Survey. Paris: UNESCO.
  Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Lesotho. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.