Prifysgol Eberhard Karl Tübingen
Prifysgol gyhoeddus a leolir yn Tübingen, Baden-Württemberg, yn ne-orllewin yr Almaen yw Prifysgol Tübingen, yn llawn Prifysgol Eberhard Karl Tübingen (Almaeneg: Eberhard Karls Universität Tübingen, Lladin: Universitas Eberhardina Carolina).
Adeilad y Neuadd Newydd (Neue Aula). | |
Math | comprehensive university, prifysgol gyhoeddus, prifysgol ymchwil gyhoeddus, University of Excellence, cyhoeddwr mynediad agored |
---|---|
Enwyd ar ôl | Eberhard I, Duke of Württemberg, Duke Karl II Eugen, Duke of Württemberg |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tübingen |
Gwlad | Yr Almaen |
Cyfesurynnau | 48.525°N 9.059°E |
Cod post | 72074 |
Sefydlwydwyd gan | Eberhard I, Duke of Württemberg |
Sefydlwyd y brifysgol gan yr Iarll Eberhard VI ym 1477, wedi iddo gael blas ar y Dadeni Dysg pan aeth ar grwydr drwy'r Eidal. Daeth yn ganolfan i ddiwygwyr eglwysig a dinesig a syniadau newydd, yn enwedig ym maes diwinyddiaeth. Sefydlwyd y coleg diwinyddol Protestannaidd yno gan y Dug Ulrich ym 1534. Bu nifer o enwogion o amryw feysydd yn astudio yn Tübingen, gan gynnwys y diwygiwr Philipp Melanchthon, seryddwr Johannes Kepler, y bardd Friedrich Hölderlin, yr athronwyr G. W. F. Hegel a Friedrich Wilhelm Joseph Schelling, y diwinydd a dyngarwr Albert Schweitzer, y diwinydd Hans Küng, a'r Pab Bened XVI.
Cyrhaeddodd y brifysgol anterth ei henwogrwydd yng nghanol y 19g, fel cartref i Ysgol Tübingen, ysgol feddwl o ddiwinyddion Protestannaidd, yn eu plith Ferdinand Christian Baur. Tübingen oedd y brifysgol gyntaf yn yr Almaen i sefydlu cyfadran gwyddorau natur, ac hynny ym 1863.[1] Cafodd athroniaethau Marcsaidd a Marcsiaeth–Leniniaeth le blaenllaw yn y brifysgol yn nechrau'r 20g. Bu'n rhaid i academyddion gydymffurfio â pholisïau'r llywodraeth Natsïaidd o 1933 hyd at 1945. Ailstrwythurwyd Prifysgol Tübingen ym 1970 yn ôl yr arfer Ffrengig, gan rannu'r brifysgol yn sawl adran annibynnol ar gyfer astudiaethau ac ymchwil.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) University of Tübingen. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Tachwedd 2021.