Pris petroliwm
Mae pris petroliwm yn cael ei reoli gan gasgenni Crude ar y New York Mercantile Exchange (NYMEX) a'r ffactorau sy'n effeithio'r pris yw ei burdeb, specific gravity neu API a'r cynnwys sylffwr. Ffactor arall, wrth gwrs, ydy faint ohono sy'n cael ei greu a'r angen amdano ger y pwmp petrol. Gall hyn effeithio ar economi gwledydd sy'n ei fewnforio. Gall effeithio chwyddiant gwledydd hefyd a gall codiad aruthrol yn ei bris greu dirwasgiad.
Er mwyn cadw'r prisiau rhag pegynnu'n ormodol fe grewyd OPEC, Sefydliad y Gwledydd sy'n Allforio Petroliwm.