Dante Alighieri
Bardd a llenor o Eidalwr yn yr ieithoedd Eidaleg a Lladin oedd Dante Alighieri (Mai 1265 – 14 Medi 1321, a aned yn Fflorens. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gerdd epig La Divina Commedia, ond roedd yn llenor dawnus yn yr iaith Ladin yn ogystal ag edmygid yn ystod ei oes am ei draethodau ysgolheigaidd ar farddoniaeth Ladin glasurol yn bennaf.
Dante Alighieri | |
---|---|
Portread o Dante gan Sandro Botticelli | |
Ganwyd | Dante da Alaghiero degli Alaghieri c. 1265 Fflorens |
Bu farw | 14 Medi 1321 o malaria Ravenna |
Man preswyl | Fflorens, Rhufain, Ravenna, Bologna, Verona, Arezzo, Forlì, Treviso, Lucca, Paris, Milan, Genova |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Fflorens |
Galwedigaeth | bardd, llenor, rhyddieithwr, gwleidydd, athronydd, damcaniaethwr gwleidyddol, deallusyn, ieithydd |
Adnabyddus am | Divina Commedia, Convivio, De Monarchia, De vulgari eloquentia, Vita Nuova, Questio de situ et formae aque et terre, Le Rime, Epistles, Eclogues |
Prif ddylanwad | Aristoteles, Fyrsil, Ofydd, Boethius, Ptolemi, Homeros, Tomos o Acwin |
Mudiad | Dolce Stil Novo |
Tad | Alighiero Di Bellincione |
Mam | Bella Degli Abati |
Priod | Gemma Donati |
Plant | Jacopo Alighieri, Pietro Alighieri, Antonia Alighieri |
Perthnasau | Sperello di Serego Alighieri |
Llinach | Alighieri |
Hanes
golyguRoedd Dante yn fab i gyfreithiwr yn Fflorens. Yn 1289 gwasanaethodd ym myddin Fflorens ac yn 1300 roedd yn farnwr yn y ddinas honno. Roedd wedi priodi Gemma Donati yn 1292 a chafodd bedwar plentyn ganddi. Yn 1301 cafodd ei anfon ar neges i weld y pab ond collodd ei blaid rym a chafodd ei alltudio o Fflorens. Bu farw yn Ravenna ar 14 Medi, 1321 a chafodd ei gladdu yno. Trwy gydol ei oes breuddwydiai am weld ymerodraeth Gristnogol newydd a fyddai'n dod â heddwch ac undeb i'r Eidal a gwledydd Cred. Pan yn blentyn, ac unwaith neu ddwy ar ôl hynny, cyfarfu â merch o'r enw Beatrice; ni phriodasant ond daeth hi i ymgorffori'r Awen a Chariad iddo (mae rhai ysgolheigion yn amau ei bodolaeth).
Gwaith llenyddol
golyguTreuliodd Dante tua deunaw mlynedd o'i oes yn ysgrifennu ei gampwaith, La Commedia (a adnabyddir heddiw fel La Divina Commedia - 'Y Ddrama Ddwyfol' - ar ôl teitl argraffiad pwysig a gyhoeddwyd 250 mlynedd yn ddiweddarach). Mae'n disgrifio pererindod ysbrydol enaid ddynol a arweinir gan Fferyllt (sy'n cynrychioli athroniaeth naturiol) a Beatrice (sy'n cynrychioli crefydd ddatguddiedig) trwy dair rhan Uffern a saith teras neu gylch Purdan i'r Baradwys ddaearol. Yna mae Fferyllt yn eu gadael ac mae Dante a Beatrice yn esgyn i gylchoedd y Nef ei hun. Mae'r Vita Nuova yn disgrifio cariad Dante at y ferch gig a gwaed Beatrice.
Llyfryddiaeth
golygu- Il Fiore (1283–7), barddoniaeth Eidaleg briodolir i Dante
- Detto d'Amore (1283–7), barddoniaeth Eidaleg briodolir i Dante
- La Vita Nuova (1294), barddoniaeth a rhyddiaith Eidaleg
- De vulgari eloquentia (1302–5), traethawd Lladin
- Convivio (1307), barddoniaeth a rhyddiaith Eidaleg
- De Monarchia (1313), traethawd Lladin
- Divina Commedia (1320), barddoniaeth Eidaleg
- Eclogae (1320), dwy gerdd Ladin
- Quaestio de aqua et terra (1320), traethawd Lladin
- Le Rime, barddoniaeth Eidaleg a gasglwyd ar ôl ei farwolaeth
Società Dante Alighieri
golyguYn 1889 sefydlwyd Società Dante Alighieri sef cymdeithas er cof am Dante ar gyfer amddiffyn ac hyrwyddo iaith a diwylliant yr iaith Eidaleg.
Cymdeithasau Dante
golyguDolenni allanol
golygu- La Divina commedia - astudiaeth
- "Digital Dante"
- Prosiect Dante Princeton Archifwyd 2009-06-03 yn y Peiriant Wayback
- Danteworlds
- Testunau gwaith Dante Alighieri Archifwyd 2006-03-26 yn y Peiriant Wayback
- "Dante Alighieri ar y We"
- Stanford Encyclopedia of Philosophy
- Società Dantesca Italiana - llawysgrifau cynnar o waith Dante (Eidaleg a Saesneg)
- Guardian Books
- Llyfryddiaeth Dante Alighieri
- Gweledigaeth Dante
- LitWeb.net: Bywgraffiad Dante Alighieri Archifwyd 2008-10-10 yn y Peiriant Wayback
- CBS "Italian Scientists Give Dante a Makeover"