Rached Ghannouchi
Gwleidydd o Diwnisia o dueddiadau Islamig yw Rached Ghannouchi neu Rachid Al-Ghannouchi (Arabeg: راشد الغنوشي, ganed 22 Mehefin 1941, El Hamma, Tiwnisia). Ef yw arweinydd mewn alltudiaeth Hizb al-Nahda, gwrthblaid waharddedig yn Tiwnisia sy'n gweithio dros greu gweriniaeth Islamaidd yn y wlad honno.
Rached Ghannouchi | |
---|---|
Ganwyd | 22 Mehefin 1941 El Hamma |
Dinasyddiaeth | Swdan, French protectorate of Tunisia, Tiwnisia |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfreithiwr, gwleidydd, academydd |
Swydd | Speaker of the Assembly of the Representatives of the People |
Plaid Wleidyddol | Hizb al-Nahda |
Gwobr/au | Ibn Rushd Prize for Freedom of Thought, Chatham House Prize, Jamnalal Bajaj Award, Ibn Rushd Prize for Freedom of Thought |
Gwefan | http://ar.rachedelghannouchi.com/, http://fr.rachedelghannouchi.com/ |
Bu'n garcharor gwleidyddol yn Tiwnisia ddiwedd y 1980au. Am ei fod wedi ei ddeddfrydu i garchar am oes ni all ddychwelyd i'w famwlad dan yr amgylchiadau presennol, ond mae'n ffigwr dylanwadol ymhlith Tiwnisiaid alltud. Yn swyddogol, mae ef a'i blaid yn credu mewn Islamiaeth a democratiaeth, gan bwysleisio ei fod am weld sefydlu system lluosogaeth wleidyddol yn y wlad, ond mae rhai yn amau diffuantrwydd hyn.
Dolenni allanol
golygu- (Arabeg) Gwefan plaid Rached Ghannouchi Archifwyd 2011-12-22 yn y Peiriant Wayback