Plaid wleidyddol Islamig yn Nhiwnisia yw Hizb al-Nahda neu Hizb Ennahda (Arabeg النهضة "Plaid y Dadeni"; Ffrangeg, Parti de la Renaissance). Ei llywydd presennol yw Rached Ghannouchi. Er mai al-Nahda yw'r enw Arabeg safonol, cyfeirir ati yn Nhiwnisia wrth y ffurf Arabeg llafar Tiwnisaidd, sef En-Nadha (Ennadha) neu "Nahda".

Hizb al-Nahda
Enghraifft o'r canlynolplaid wleidyddol Edit this on Wikidata
IdiolegDemocratiaeth Islamaidd, Ceidwadaeth, rhyddfrydiaeth economaidd Edit this on Wikidata
Rhan oClymblaid 18 Hydref dros Hawl a Rhyddid, Troika Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu14 Ionawr 2011 Edit this on Wikidata
SylfaenyddRached Ghannouchi, Hmida Ennaifer, Abdelfattah Mourou Edit this on Wikidata
PencadlysTiwnisia Edit this on Wikidata
GwladwriaethTiwnisia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Erthygl am y blaid wleidyddol yw hon; am y mudiad diwylliannol gweler al-Nahda.
Arwyddlun Hizb al-Nahda

Cafodd y blaid ei sefydlu yn wreiddiol dan yr enw Action islamique, wedyn newidiodd ei henw i Fudiad y Tuedd Islamig, ac wedyn yn 1989 i Hizb al-Nahda.[1] Er iddynt ar y dechrau arddel syniadau Sayyid Qutb a Maududi, o'r 1980au ymlaen dechreuasant eu disgrifio eu hunain fel "plaid Islamig gymhedrol". Dywedant eu bod o blaid democratiaeth a ffurf "Diwnisaidd" ar Islamiaeth a fyddai'n cydnabod lluosogaeth wleidyddol. Galwant hefyd am drafod gyda'r Gorllewin. Fodd bynnag, maent yn gwrthod syniadau arferol y Gorllewin am natur democratiaeth ryddfrydig ac am weld cyfansoddiad gwaelodol Islamaidd yn lle'r un seciwlar presennol yn Nhiwnisia. Mae rhai wedi cyhuddo un o'i phrif arweinwyr, Rashid Al-Ghannushi, o fod a hanes o gefnogi trais, ac eto y prif gyhuddiad yn ei erbyn gan llywodraeth Tiwnisia oedd trefnu plaid wleidyddol anghyfreithlon.

Ar ddiwedd y 1980au a dechrau'r ddegawd olynol cyhoeddai'r blaid bapur newydd anghyfreithlon, Al-Fajr. Cafodd golygydd Al Fajr, Hamadi Jebali, ei ddeddfrydu i 16 mlynedd o garchar yn 1992 am berthyn i grŵp gwaharddedig ac am "gynllwynio trais gyda'r bwriad o newid natur y wladwriaeth." Caniatawyd i aelodau o en-Nahda sefyll yn etholiadau 1989 ond cafodd y mudiad ei wahardd yn llwyr yn 1991. Credir fod yr orsaf teledu Arabeg El Zeitouna yn gysylltiedig ag al-Nahda.

Cafodd canoedd o aelodau a chefnogwyr y blaid eu harestio a charcharu. Ar 27 Chwefror 2006, fel rhan o amnesti cyffredinol i garcharorion gwleidyddol, rhyddhawyd nifer o'r carcharorion hyn ar orchymyn Zine Abedine Ben Ali, Arlywydd Tiwnisia.[2]

Llywodraeth

golygu

Yn dilyn Chwyldro Tiwnisia, dychwelodd Ghannouchi o alltudiaeth dramor a daeth en-Nahda yn rym pwysig yng ngwleidyddiaeth y wlad. Yn wyneb natur ranedig y pleidiau seciwlar niferus, enillodd en-Nahda yr etholiad cyntaf i'w gynnal ar ôl cwymp Ben Ali a ffurfiodd lywodraeth leiafrifol. Cafwyd cyfnod helbulus gyda streiciau a phrotestiadau gan y Chwith seciwlar a'r undebau llafur yn erbyn polisiau islamaidd ceidwadol en-Nahda.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Columbia World Dictionary of Islamism, Olivier Roy a Antoine Sfeir, gol., 2007, tt.354-5
  2. Erthygl ar www.nawaat.org[dolen farw]

Dolenni allanol

golygu