Valleys Radio

(Ailgyfeiriad o Radio'r Cymoedd)

Gorsaf radio ar gyfer blaenau cymoedd de Cymru oedd Valleys Radio (Cymraeg answyddogol: Radio'r Cymoedd). Dechreuodd ddarlledu ar 999 kHz ac 1116 kHz y donfedd ganol ym 1996 o'i stiwdio ar gyrion Glyn Ebwy, Blaenau Gwent. Bellach roedd yn bosibl i'w glywed ar 999 ac 1116 y donfedd ganol ac ar-lein. Rhan o grŵp UTV oedd yr orsaf, sydd hefyd yn perthyn i Sain Abertawe a 96.4FM The Wave a leolir yn Abertawe. Angharad Rhiannon Davies oedd llais Cymraeg yr orsaf wrth iddi ddarlledu ei rhaglen dair awr bob nos Sul rhwng 19:00 a 22:00. Peidiodd yr orsaf â darlledu ar Ddydd Iau, 30 o Ebrill, 2009, am 10yb. Y gân olaf i'w chwarae arni oedd "Our last song together" gan Neil Sedaka.

Valleys Radio
Ardal DdarlleduBlaenau Cymoedd De Cymru
ArwyddairThe Heart of South Wales
Dyddiad Cychwyn23 Tachwedd, 1996
PencadlysGlyn Ebwy
Perchennog UTV
Gwefanwww.valleysradio.co.uk

Cyflwynwyr golygu

Cyflwynwyr Lleol golygu

  • Mark Powell (Brecwast diwrnod gwaith)
  • Karen Brown (Boreau diwrnod gwaith/prynhawn dydd Sadwrn)
  • Tony Peters (Amser Gyrru diwrnod gwaith)
  • Hannah Sillitoe (Nosweithiau diwrnod gwaith)
  • Patrick Downes (Brecwast penwythnos)
  • Patrick Hanson (Bore dydd Sadwrn)
  • Angharad Rhiannon Davies (Rhaglen Cymraeg)
  • Paul Fairclough (Money on Your Mobile)
  • Gareth Sweeney (Dydd Sadwrn Parti Parth)
  • Leighton Jones

Cyflwynwyr Rhwydwaith golygu

  • Pete Baker (Party Classics)
  • Paul Edwards
  • Andy Jones (The Late Late Show)
  • Kevin Lee
  • Andy Martindale (Late Night Love/prynhawn dydd Sul)
  • Dave Sherwood
  • Perry Spiller

Staff Newyddion golygu

  • Caroline Allen
  • Lexy Blackwell
  • Emma Thomas (Golygydd)

Dolenni allanol golygu