Radio Kreiz Breizh
Gorsaf radio hanner Llydaweg yw Radio Kreiz Breizh (neu RKB) ('Radio Canolbarth Llydaw'; Radio Craidd Llydaw). Sefydlwyd RKB yn 1983 yn Sant-Nigouden (Ffrangeg: Saint-Nicodème) (ger Kallag) i wasanaethu canolbarth Llydaw. Ceir rhaglenni Ffrangeg arni hefyd.
Mae'r ardal darlledu yn cynnwys gorllewin Aodoù-an-Arvor (Côtes-d'Armor), rhan o Dreger (ardal Gwengamp), rhan helaeth o Penn-ar-Bed (Finistère) a gogledd-orllewin Morbihan.
Mae'r orsaf yn ran o rwydwaith bras o orsafoedd radio iaith Llydaweg eraill sy'n cynnwys Radio Kerne, Arvorig FM a Radio Bro-Gwened.
Darlledir ar dair tonfa FM :
- Saint-Nicodème: 102.9 Mhz
- Guingamp: 106.5 Mhz
- Berrien: 99.4 Mhz
Mae'r orsaf ar gael ar-lein hefyd.
Hanes
golyguCrëwyd Radio Kreiz Breizh ym 1983, cyfnod a welodd ymddangosiad nifer o orsafoedd 'radio rhydd' a radio ton-leidr. Mae darllediadau cyntaf yr orsaf yn cael eu darlledu o stiwdios sydd wedi'u gosod mewn hen gar, ac ar y to mae trosglwyddydd.[1]
Mae Radio Kreiz Breizh hefyd yn gweithio gyda chyfnewid rhaglenni o fewn y rhwydwaith o orsafoedd radio cysylltiadol yn yr iaith Lydaweg a elwyd yn wreiddiol yn Brudañ ha Skignañ ("trosglwyddo a darlledu") ond a elwir bellach yn Radio Breizh).[2]
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- (Llydaweg) (Ffrangeg) Gwefan swyddogol Radio Kreiz Breizh Archifwyd 2009-06-29 yn y Peiriant Wayback
- (Llydaweg) RKB ar-lein Archifwyd 2009-09-01 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
golygu- ↑ RKB. Un Nodyn:30e dignement fêté, Le Télégramme, 21 Hydref 2013
- ↑ "Brudañ ha Skignañ : les radios bretonnes brittophones se mettent en réseau". Agence Bretagne Presse. 15 Hydref 2008.