Radio Kerne
Mae Radio Kerne yn radio gymunedol iaith Llydaweg, a grëwyd yn 1998,[1] sy’n darlledu rhaglenni yn ardal Bro-Gerne sef, rhan dde-orllewinnol département Penn-ar-Bed, yn yr iaith Lydaweg yn unig. Mae'n darlledu ar dri amledd: 90.2 (Kemper), 92.0 (Douarnenez) a 97.5 (Konk-Kerne).
Enghraifft o'r canlynol | gorsaf radio |
---|
Agorwyd antena RNT newydd ym mis Gorffennaf 2019 yn Naoned,[2] yn dilyn dilysu'r prosiect gan y CSA ym mis Ionawr 2018.[3][4] Dyma'r unig gangen yn yr iaith Lydaweg yn département Loire-Atlantique. Yn 2021, creuwyd swydd newyddiadurwr yn Roazhon gyda'r bwriad o ddatblygu yn rhanbarth Bro-Roazhon.[5].
Cynnwys
golyguMae Radio Kerne yn radio cyffredinol sy'n darlledu 60 awr o raglenni yn yr iaith Lydaweg bob wythnos, newyddion, adroddiadau, croniclau. Mae'r radio yn rhoi lle pwysig i raglenni cerddorol, gyda rhaglen gerddorol yn canolbwyntio ar gerddoriaeth Lydaweg, cerddoriaeth gyfoes a cherddoriaeth y byd. Radio Kerne yw'r radio cymdeithasu y gwrandewir arno fwyaf o'r 36 o orsafoedd radio Llydaweg, gyda 5,200 o wrandawyr dyddiol.[6][7].
Mae hefyd yn gweithio gyda chyfnewid rhaglenni o fewn y rhwydwaith o orsafoedd radio cysylltiadol yn yr iaith Lydaweg Brudañ ha Skignañ ("trosglwyddo a darlledu") a elwir bellach yn Radio Breizh.[8]
Partneriaethau a chyllid
golyguCefnogir Radio Kerne gan Gyngor Rhanbarthol Llydaw a Conseil Général Penn-ar-Bed.
Mae Radio Kerne a Radio Kerne Naoned yn rhan o rwydwaith radio’r gymdeithas Llydaweg “Brudañ ha Skignañ”, sy’n cynnwys Radio Kreiz Breizh, Radio Bro Gwened, Arvorig FM, Radio Kerne a Radio Kerne Naoned. Cefnogir y rhwydwaith hwn gan Gyngor Rhanbarthol Llydaw, a chynghorau adrannol Penn-ar-Bed, Mor Bihan a Aodoù-an-Arvor.[9] Mae'n caniatáu i radios cysylltiadol gynhyrchu bwletin newyddion dyddiol yn yr iaith Lydaweg yn seiliedig ar gyfuno gwaith newyddiadurwyr o wahanol ystafelloedd newyddion.
Cafodd y prosiect i agor cangen RNT yn Naoned ei gefnogi’n ariannol gan Redadeg hyd at 30,000 ewro10, ac fe’i gwobrwywyd gyda’r gwobrau ar gyfer dyfodol yr iaith Lydaweg 2019, yn y categori cymdeithasu.[10].
Mae Radio Kerne Naoned yn aelod o FRAP (Ffederasiwn Radios Cyswllt yn Pays de la Loire).[11].
Radio Naoned
golyguYn 2018 bu gweithwyr Radio Kerne a'u cefnogwyr, yn weithredol wrth greu Radio Naoned ar gyfer y ddinas yn Bro-Naoned yn ne ddwyrain Llydaw.
Gweler hefyd
golygu- Radio Kreiz Breizh
- Arvorig FM
- Radio Bro-Gwened
- Radio Naoned
- Radio Breizh - llwyfan ganolog ar gyfer y gorsafoedd radio lleol Llydaweg
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Bretagne-Pays de Loire : radios présélectionnées, CSA.fr
- ↑ Saint-Herblain. Radio Kerne-Naoned en quête de visibilité, Ouest France, 21 Chwefror 2020
- ↑ "Une radio 100 % bretonne sur les ondes". Ouest-France. 25 Ionawr 2018..
- ↑ Décision n° 2018-374 du 23 mai 2018 autorisant l'association Radio Kerne à exploiter un service de radio de catégorie A, Légifrance, 5 Mehefin 2018
- ↑ Après Nantes, Radio Kerne vise un développement à Rennes, Côté Quimper, 9 Medi 2021
- ↑ Médias. Radio Kerne à la conquête de l'est breton, Le Télégramme, 9 Mawrth 2018
- ↑ Quimper. Une antenne de Radio Kerne à Nantes, Côté Quimper, 5 Chwefror 2018
- ↑ "Brudañ ha Skignañ : les radios bretonnes brittophones se mettent en réseau". Agence Bretagne Presse. 15 Hydref 2008.
- ↑ "Brudañ ha Skignañ: les radios bretonnes brittophones se mettent en réseau". Agence Bretagne Presse. 15 Hydref 2008..
- ↑ Plonéis. Radio Kerne primée pour sa modernité, Ouest France, 14 Mawrth 2019
- ↑ Radio Kerne Naoned ouvre ses portes au public, La Lettre Pro, 17 Medi 2020
Dolenni allanol
golygu