Radio Méditerranée Internationale
Sefydlwyd Radio Méditerranée Internationale (Medi 1 Radio) yn 1980 gan bartneriaeth o gwmnïau o Ffrainc a Moroco i gynnig gwasanaeth radio dwyieithog - Arabeg a Ffrangeg - i fasn orllewinol y Môr Canoldir, gan ganolbwyntio'n neilltuol ar wledydd y Maghreb Mawr, sef Moroco, Algeria, Tiwnisia, Mauretania, a Libia.[1]
Mae'r orsaf yn disgrifrio ei hun fel "La radio du grand Maghreb" ('Radio'r Maghreb Mawr'). Ei harwyddair yw: "Une radio, deux langues" ('Un radio, dwy iaith').[2]
Mae'r orsaf yn darlledu 24 awr y dydd yn Arabeg a Ffrangeg. Lleolir y stiwdio yn Tanger, Moroco. Mae'n darlledu ar y tonfeydd byr a hir ac mae ar gael hefyd ar y rhyngrwyd. Yn ogystal â'r Maghreb Mawr, gellir gwrando Medi 1 yn Sbaen, de Ffrainc a'r Eidal. Yn ôl ystadegau'r orsaf, mae ganddi gynulleidfa o ryw 22-23 miliwn o wrandawyr sy'n codi i tua 25 miliwn yng ngwyliau'r haf.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Medi 1: gwybodaeth". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-23. Cyrchwyd 2009-07-19.
- ↑ Med 1: Croeso
Dolenni allanol
golygu- (Arabeg) (Ffrangeg) Gwefan swyddogol