Mae ranitidin, a werthir o dan yr enw masnachol Zantac, ymysg eraill, yn feddyginiaeth sy'n lleihau cynhyrchu asid yn y stumog.[1]

Ranitidin
Ranitidin
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathfurans, amine trydyddol Edit this on Wikidata
Màs314.141 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₁₃h₂₂n₄o₃s edit this on wikidata
Clefydau i'w trinClefyd adlif gastro-oesoffagaidd, diffyg traul, clefyd y stumog, llid y stumog, torgest fylchog, wlser gastrig edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia b1, categori beichiogrwydd unol daleithiau america b edit this on wikidata
Yn cynnwysocsigen, carbon Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Defnydd golygu

Fe'i defnyddir yn gyffredin wrth drin wlserau peptig, clefyd adlif gastroesoffageal, a syndrom Zollinger-Ellison. Mae rhywfaint o dystiolaeth ei fod hefyd o fudd wrth drin llosg dynad (hives). Gellir ei weini trwy'r genau, trwy chwistrelliad i mewn i gyhyr, neu drwy chwistrelliad i mewn i wythïen.[2]

Sgil effeithiau golygu

Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys cur pen a phoen neu losgi o'i weini drwy bigiad. Gall sgil effeithiau difrifol gynnwys problemau'r afu, cyfradd calon araf, niwmonia, a'r potensial i guddio symptomau presenoldeb canser y stumog. Mae hefyd wedi'i gysylltu â risg gynyddol o glefyd Clostridium difficile. Yn gyffredinol mae'n ddiogel yn ystod beichiogrwydd. Mae ranitidine yn gwrthweithydd derbynyddion histamin H2 sy'n gweithio trwy atal histaminau a thrwy hynny yn  lleihau'r asid sy'n cael ei ryddhau gan gelloedd y stumog[3].

Hanes golygu

Darganfuwyd ranitidin ym 1976 a daeth i ddefnydd masnachol ym 1981. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Mae ar gael fel meddyginiaeth generig.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Ranatadine". NICE / BNF. Cyrchwyd 2018/03/30. Check date values in: |access-date= (help)
  2. "Ranitidine: Uses, Dosage and Side Effects - Drugs.com". Drugs.com. Cyrchwyd 2018/03/30. Check date values in: |access-date= (help)
  3. "Ranitidine - Side Effects, Dosage, Uses, and More - Healthline". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-20. Cyrchwyd 2018/03/30. Check date values in: |access-date= (help)


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!