Ras a gynhelir yn flynyddol o bentref Llanberis yng Ngwynedd i gopa'r Wyddfa ac yn ôl yw Ras yr Wyddfa neu Ras Ryngwladol yr Wyddfa.

Ras yr Wyddfa
Tim Davis yn 2005
DyddiadGorffennaf
LleoliadLlanberis, Cymru
MathMynydd
Pellterc. 10 milltir
Sefydlwyd1976
Y cyflymaf hyd yma1:02:29 (Kenny Stuart, 1985)
1:12:48 (Carol Greenwood, 1993)
Gwefan swyddogolRas yr Wyddfa; gwefan Gymraeg

Dechreuodd y ras pan awgrymodd Ken Jones o Lanberis ym mhwyllgor Carnifal Llanberis y dylid trefnu ras o'r pentref i gopa'r Wyddfa ac yn ôl. Cynhaliwyd y ras gyntaf ar 19 Gorffennaf 1976, pan enillodd Dave Francis o Fryste mewn 1 awr 12 munud 05 eiliad.

Mae'r ras yn awr yn cychwyn ger glannau Llyn Padarn. Y record hyd yma yw 1 awr 2 funud a 29 eiliad gan Kenny Stuart o Keswick yn 1985. Y record i gopa'r Wyddfa yw 39 munud a 47 eiliad gan Robin Bryson o Iwerddon. Recordiau'r merched yw 1a 12m 48e am y ras nôl a blaen, a 47m 07e i'r copa, y ddau record wedi'u cwblhau gan C. Greenwood ym 1993.

Mae Radio Cymru yn darlledu yn fyw o'r ras a mae S4C yn darlledu rhaglen o uchafbwyntiau y diwrnod canlynol. Yn y 2010au mae'r wefan swyddogol yn cynnwys traciwr byw o'r cystadleuwyr ac yn 2016 defnyddiwyd technoleg 'Facebook Live' i ffrydio'n fyw o linell derfyn y ras.

Canlyniadau golygu

Yn 2018, roedd un rhedwr wedi rhedeg pob ras, yn flynyddol, ers dechrau'r rasys yn 1976, sef Malcolm Jones, brawd yr actor Mici Plwm.[1]

Blwyddyn Cyntaf[2] Amser Ail Safle Amser 3ydd Safle Amser Y Ferch Gyntaf Amser
1976   Dave Francis 1:12:05   Tacwyn Davies 1:13:31   Ray Rawlinson 1:14:38   Bridget Hogge 1:40:15
1977   Ricky Wilde 1:06:07   Jeff Norman 1:07:34   Mike Short 1:08:42   Joan Glass 1:39:46
1978   Ricky Wilde 1:04:28   Dave Francis 1:07:25   Jeff Norman 1:07:53   Joan Glass 1:31:24
1979   Jeff Norman 1:05:00   Ricky Wilde 1:07:07   Dave Francis 1:07:11   Joan Glass 1:29:02
1980   P. Pezzoli 1:06:53   Andy Darby 1:08:43   A. Giupponi 1:09:07   Pauline Haworth 1:25:18
1981   John Wild 1:05:18   G. Rovedati 1:05:31   S. Lazzaroni 1:08:08   Ros Coates 1:24:49
1982   John Wild 1:05:55   P. Pezzoli 1:06:36   F. Bonzi 1:06:41   R. Naish 1:24:10
1983   R. Keeney 1:08:39   M. Bishop 1:09:23   Jeff Norman 1:09:55   Bridget Hogge 1:39:32
1984   F. Bonzi 1:03:46   1:   1:   Pauline Haworth 1:24:03
1985   Kenny Stuart 1:02:29   1:   1:   Pauline Haworth 1:20:29
1986   L. Bortaluzzi 1:04:24   1:   1:   Carol Haigh 1:14:36
1987   M. May 1:03:43   1:   1:   Angela Carson 1:24:19
1988   Colin Donnelly 1:04:38   1:   1:   S. Dilnot 1:22:10
1989   John Lenihan 1:04:12   1:   1:   Angela Carson 1:22:38
1990   L. Fregona 1:03:43   1:   1:   T. Calder 1:17:25
1991   Mark Croasdale 1:04:48   1:   1:   A. Buckley 1:19:35
1992   Mark Croasdale 1:05:09   1:   1:   T. Calder 1:18:37
1993   Ian Holmes 1:04:14   1:   1:   Carol Greenwood 1:12:48
1994   Fabio Ciaponi 1:04:44   1:   1:   L. Wright 1:22:35
1995   Mark Kinch 1:02:58   1:   1:   P. Sloan 1:22:33
1996   Martin Roscoe 1:07:18   1:   1:   Lesley Leavesley 1:26:56
1997   Ian Holmes 1:04:50   1:   1:   Carol Greenwood 1:16:11
1998   Colin Jones 1:05:14   1:   1:   Angela Mudge 1:16:14
1999   Neil Wilkinson 1:05:51   1:   1:   Helen Jackson 1:25:12
2000   Neil Wilkinson 1:05:45   Fabio Ciaponi 1:07:24   Ian Holmes 1:07:48   Angela Mudge 1:20:28
2001   Marco De Gasperi 1:05:51   1:   1:   Izabela Zatorska 1:19:04
2002   Tim Davies 1:07:11   Ian Holmes 1:08:13   Fabrizio Triulzi 1:08:21   Tracey Brindley 1:20:37
2003   Tim Davies 1:05:57   Simon Bailey 1:06:41   Ian Holmes 1:07:11   Dawn Scott 1:25:40
2004   Ian Holmes 1:05:38   Julien Rancon 1:06:04   Alun Vaughn 1:06:12   Claire Whitehead 1:18:28
2005   Tim Davies 1:06:37   William Levett 1:07:20   Alessio Rinaldi 1:08:24   Mary Wilkinson 1:17:44
2006   Andi Jones 1:07:25   Tim Davies 1:07:57   Ian Holmes 1:09:10   Mary Wilkinson 1:19:38
2007   Andi Jones 1:05:38   Ian Holmes 1:08:16   Ben Bardsley 1:08:26   Mary Wilkinson 1:20:36
2008   Andi Jones 1:06:02   Morgan Donnelly 1:09:24   Ian Holmes 1:10:37   Katie Ingram 1:20:44
2009 Cai Adams 1:08:15   Ian Holmes 1:09:00   Murray Strain 1:09:43   Katie Ingram 1:15:34
2010   Robbie Simpson 1:07:59   Alex Baldaccini 1:09:11   Ian Holmes 1:09:11   Catriona Buchanan 1:21:19
2011   Andi Jones 1:05:57   Murray Strain 1:06:04   Robbie Simpson 1:07:36   Pippa Maddams 1:20:53
2012   Murray Strain 1:05:10   Robbie Simpson 1:06:43   Fabio Ruga 1:07:25   Tessa Hill 1:21:26
2013   Andi Jones 1:08:50   Murray Strain 1:10:14   Rob Hope 1:10:54   Sarah Mulligan 1:26:25
2014[3]   Cesare Maestri 0:47:20   Erik Rosaire 0:47:43   Tim O'Donoghue 0:47:51   Sarah McCormack 0:55:21
2015   Emanuele Manzi 1:10:18   Massimo Farcoz 1:11:29   Ben Mounsey 1:11:39   Sarah McCormack 1:20:56
2016 Cai Adams 1:05:48   Chris Farrell 1:07:14   Luca Cagnati 1:07:17   Sarah Mulligan 1:20:52

Cyfeiriadau golygu

  1. Twitter; adalwyd 17 Gorffennaf 2018.
  2. Summaries for 1976 to 1983 are in Bill Smith, Stud Marks on the Summits (Preston, 1985). Lists of the winning men and women from 1976 to 2005 are available at https://web.archive.org/web/20070102045917/http://www.snowdonrace.com/records/index.php. The results for 2000 are from the results section of The Fellrunner, Oct 2000, 33. Results for 2002 to 2009 are available at http://snowdonrace.co.uk/ and the 2010 results are available at http://www.tdl.ltd.uk/ Archifwyd 2010-02-08 yn y Peiriant Wayback..
  3. BBC website Note - The race was only run as far as Clogwyn Bridge - the first time the route had been changed - due to the fear of torrential thunderstorms and lightning at the summit.

Gweler hefyd golygu

Dolen allanol golygu