Raymond Gower

gwleidydd Ceidwadol

Roedd Syr Herbert Raymond Gower (15 Awst, 191622 Chwefror, 1989) yn gyfreithiwr, yn newyddiadurwr ac yn wleidydd Ceidwadol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Y Barri o 1951 i 1983 a Bro Morgannwg o 1983 i 1989.[1][2]

Raymond Gower
Ganwyd15 Awst 1916 Edit this on Wikidata
Llansawel Edit this on Wikidata
Bu farw22 Chwefror 1989 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfreithiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Gower yn Llansawel yn fab i Lawford Gower, pensaer a Julia Florence (née John) ei wraig.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd, Ysgol Uwchradd Caerdydd, Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd ac Ysgol y Gyfraith, Caerdydd.

Ym 1973 Priododd Cynthia merch Mr a Mrs James Hobbs, ni fu iddynt blant. Bu'r Ledi Gower marw yn 2008 [3]

Gyrfa golygu

Methodd Gower prawf meddygol ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd gan hynny bu'n gwasanaethu fel swyddog cadetiaid.

Cymhwysodd Gower fel cyfreithiwr ym 1944 a bu'n gweithio i'w bractis ei hun yng Nghaerdydd o 1948 i 1963. Ym 1964 aeth yn bartner yng nghwmni cyfreithiol S R Freed yn Llundain.

Bu Gower yn golofnydd rheolaidd i bapur y Western Mail o 1950, bu hefyd yn gadeirydd Cwmni Cyhoeddi Penray Press a'r cwmni oedd yn cyhoeddi'r papur Lleol the Barry Herald.

Gyrfa Wleidyddol golygu

Ym 1946 etholwyd Gower yn ysgrifennydd Cymdeithas Ceidwadol Dwyrain Caerdydd. Fe'i dewiswyd fel yr ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer etholaeth Ogwr yn etholiad cyffredinol 1950 ond fe gollodd yn drwm i'r ymgeisydd Llafur, Walter Padley.

Safodd eto yn etholiad 1951 fel ymgeisydd yn etholaeth y Barri gan lwyddo i gipio'r sedd oddi wrth y Blaid Lafur. Cadwodd ei sedd hyd ddiddymu'r etholaeth ym 1983. Ym 1983 fe'i etholwyd fel Aelod Seneddol etholaeth newydd Bro Morgannwg gan dal y sedd hyd ei farwolaeth ym 1989.

Gwasanaethodd fel cadeirydd grŵp Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymreig, a daeth yn drysorydd ar y Grŵp Seneddol Cymreig ym 1966. Bu'n aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Wariant a Chynhadledd y Llefarydd ar Ddiwygio Etholiadol

Gwasanaeth cyhoeddus amgen golygu

Gwasanaethodd Gower ar nifer o gyrff cyhoeddus Cymreig, gan gynnwys:

Urddwyd Gower yn farchog ym 1974, a'i wneud yn Rhyddfreiniwr Bwrdeistref Bro Morgannwg ym 1977[4].

Marwolaeth golygu

Bu farw Gower yn ei gartref yn y Sili o drawiad ar y galon wedi gwario'r dydd yn canfasio dros y Ceidwadwyr yn isetholiad Pontypridd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Y Bywgraffiadur GOWER, HERBERT RAYMOND [1] adalwyd 10 Ionawr 2016
  2. ‘GOWER, Sir (Herbert) Raymond’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 adalwyd 10 Ionawr 2016
  3. The Daily Telegraph Announcements - Deaths Gower [2] Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 10 Ionawr 2016
  4. Cyngor Bro Morgannwg honorary_freedom [3] Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 10 Ionawr 2016
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Dorothy Mary Rees
Aelod Seneddol Y Barri
19511983
Olynydd:
diddymu'r etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol Bro Morgannwg
19831989
Olynydd:
John Smith