Dorothy Mary Rees

gwleidydd Llafur a henadur

Roedd y Fonesig Dorothy Mary Rees (née Jones) (29 Gorffennaf 189820 Awst 1987) yn athro, yn gymwynaswr cyhoeddus ac yn wleidydd Plaid Lafur Cymreig a wasanaethodd fel Cynghorydd Llafur ar Gynghorau'r Barri a Sir Forgannwg ac fel Aelod Seneddol etholaeth y Barri[1][2][3]

Dorothy Mary Rees
Ganwyd29 Gorffennaf 1898 Edit this on Wikidata
y Barri Edit this on Wikidata
Bu farw20 Awst 1987 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Sir, Y Bari
  • Coleg Hyfforddi y Barri Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Gwobr/auBonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata

Bywyd Personol

golygu

Ganwyd Dorothy Jones yn y Barri yn ferch i Henry Jones, llafurwr yn y dociau, a Catherine (née Owens ei wraig). Yn ôl cyfrifiad 1911 roedd y teulu yn un Gymraeg ei hiaith [4].

Enillodd Jones ysgoloriaeth i Ysgol Sir y Barri oddi yno aeth i Goleg Hyfforddi Morganwg lle cymhwysodd yn athrawes.

Ym 1926 Priododd David George Rees [5][6], morwr, mab hynaf David F Rees y Barri, bu ef farw ym 1938 yn 40 oed; ni fu iddynt blant.

Rhwng 1918 a 1926 bu Jones yn dysgu mewn ysgolion yng Nghastell-nedd, Caerffili a'r Barri. Wrth briodi, yn ôl rheolau'r cyfnod, bu'n rhaid iddi roi'r gorau i'w galwedigaeth.

Gyrfa Wleidyddol

golygu

Ymunodd Jones a'r Blaid Lafur ym 1922, bu hi'n un o sylfaenwyr (ac yn ysgrifennydd) Cymdeithas Fabian y Barri ac yn aelod o Undeb yr Athrawon.

Safodd etholiad am y tro cyntaf ym 1933 gan golli yn ei hymgais i ddyfod yn aelod o Gyngor Ddinesig y Barri dros ward Tregatwg. Ym 1934 safodd yn ward Dociau'r Barri mewn etholiad ar gyfer Cyngor Sir Forgannwg gan gipio'r sedd oddi wrth yr aelod Annibynnol, gan gael ei chodi yn henadur ychydig wedi ei hethol. Ym 1936 llwyddodd i ennill sedd a'r Gyngor Ddinesig y Barri fel y cynrychiolydd dros ward Holton.

Ym 1940 ymneilltuodd o'r ddau gyngor er mwyn derbyn swydd gyda'r Weinyddiaeth Bwyd fel cyfraniad i achos yr Ail Ryfel Byd. Ar derfyn y rhyfel ymddiswyddodd o'r swydd er mwyn dod yn drefnydd ac asiant y Blaid Lafur dros ymgyrch etholiadol (llwyddiannus) Lynn Ungoed-Thomas yn etholaeth Llandaf a'r Barri.

Cafodd ei chyfethol yn henadur i Gyngor Bwrdeistref y Barri ym 1946 a'i hethol yn ôl i Gyngor Sir Forgannwg, a'i chodi'n henadur eto, yn yr un flwyddyn.

Pan ddiddymwyd etholaeth Llandaf a'r Barri i greu etholaeth newydd y Barri, penderfynodd Ungoed-Thomas i beidio sefyll yn yr etholaeth newydd, er mwyn sefyll yn etholaeth Caerfyrddin a dewiswyd Rees fel yr ymgeisydd Llafur. Cipiodd y sedd efo mwyafrif bychan, ond pan gynhaliwyd ail etholiad cyffredinol cyn pen y flwyddyn ym 1951 collodd y sedd o drwch y blewyn i'r ymgeisydd Ceidwadol Raymond Gower.

Parhaodd yn aelod o Gyngor Sir Morgannwg gan ddod yn gadeirydd y cyngor ym 1964.

Gwasanaeth cyhoeddus amgen

golygu

Bu Rees yn aelod o Cydbwyllgor Addysg Cymru, Bwrdd Ysbytai Addysgol Cymru, Y Bwrdd Ymgynghorol ar Yswiriant Gwladol, Bwrdd Reoli Ysbytai Morgannwg, Y Cyngor Canolog ar Hyfforddiant Mewn Gofal Plant a Chyngor Economaidd Cymru. Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch ar Fainc Dinas Powys.

Pan ymwelodd yr Eisteddfod a'r Barri ym 1968, Rees oedd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith. Hi oedd yn bennaf gyfrifol am ymwrthod y cais i un o feibion amlycaf y Barri, Gwynfor Evans, rhag fod yn un o Lywyddion y Dydd yn yr Eisteddfod.

Anrhydeddwyd Rees gyda Rhyddfraint y Barri ym 1956, gyda CBE ym 1964 a'i hurddo yn DBE ym 1975.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Y Bywgraffiadur REES, DOROTHY MARY (1898-1987) [1] adalwyd 10 Ionawr 2016
  2. ‘REES, Dame Dorothy (Mary)’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 adalwyd 10 Ionawr 2016
  3. Chris Williams, ‘Rees, Dame Dorothy Mary (1898–1987)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, May 2011 adalwyd 10 Ionawr 2016
  4. Archif Genedlaethol y DU, Cyfrifiad 1911 RG14/32187; Rhif: 113 12 Burlington Street Barry Dock
  5. Y Swyddfa Gofrestru Cenedlaethol, Mynegai i briodasau 1926; chwarter Gorffennaf - Medi; Cyf 11a Tudalen 701
  6. Casgliad y Werin D. G. Rees & D.M. Rees, Y Barri, tua 1937 (llun o'r ddau) adalwyd 10 Ionawr 2016
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol Y Barri
19501951
Olynydd:
Raymond Gower