Cwmni meddalwedd Americanaidd yw Recorded Future gyda'i bencadlys yn Cambridge, Massachusetts, UDA, sy'n arbenigo newn dadansoddiaeth ragweledol (predictive analytics). Sefydlwyd y cwmni yn 2008.[1]

Recorded Future
Math
busnes
Sefydlwyd2008
PencadlysSomerville
Gwefanhttps://www.recordedfuture.com Edit this on Wikidata

Gan ddefnyddio'r hyn a elwir ganddynt yn "beiriant dadansoddiaeth amseryddol" (temporal analytics engine), mae Recorded Future yn ceisio rhagweld digwyddiadau trwy sganio ffynonellau ar y rhyngrwyd. Cymerir y wybodaeth hon, ei pwyso a'i chlorannu i ddangos rhwydweithiau a phatrymau yn y gorffennol, rwan ac yn y dyfodol ('yr hyn a fu, y sydd ac a fydd'). Mae'r meddalwedd yn dadansoddi ffynonellau ac yn creu "dolenni anweladwy" rhwng dogfennau (e.e. neges) i ddarganfod cysylltiadau sy'n eu clymu wrth ei gilydd ac felly rhagweld digwyddiadau a'r pethau neu bobl a fydd yn rhan ohonynt. Bydd Recorded Futures yn hel gwybodaeth arlein yn fyw trwy chwilio'n drwyadl degau o filoedd o wefannau, blogiau a chyfrifon Twitter gan gysylltu'r wybodaeth ar unwaith i greu darlun o bwy sy'n gwneud be a phwy sy'n cysylltu gyda phwy ar y rhyngrwyd. Mae'r wybodaeth hon yn cynnwys manylion personol a theulol heb wybod i'r "gwrthrych".[2]

Y prif fuddsoddwyr yn Recorded Future yw In-Q-Tel (arf buddsoddi'r CIA) a Google ac mae gan Amazon fuddsoddiad sylweddol hefyd.[3] Gwnaed y buddsoddiadau hyn yn 2009 ond ni ddatguddwyd y wybodaeth tan fis Gorffennaf 2010.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Recorded Future: It's like Google Meets Nostradamus", The Boston Globe, 2010.02.18.
  2. 'Research a person' Archifwyd 2011-05-27 yn y Peiriant Wayback, Recorded Future.
  3. "Google and CIA Plough Millions Into Huge ‘Recorded Future’ Monitoring Project" Archifwyd 2010-08-07 yn y Peiriant Wayback, Infowars.com.
  4. "Federal Computer Week". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-31. Cyrchwyd 2010-08-05.

Dolenni allanol

golygu