Label recordio Cymreig oedd Recordiau Peski.

Recordiau Peski
Sefydlwyd 2003
Sylfaenydd Garmon Gruffydd, Rhys Edwards
Diddymwyd 2016
Math o gerddoriaeth Label annibynnol
Gwlad Baner Cymru Cymru
Gwefan swyddogol Peski Records
peski.co.uk
MySpace Peski

Ymysg yr artistiaid sydd yn rhyddhau recordiau ar y label mae Jakokoyak, Radio Luxembourg, David Mysterious, Stitches, Evils a Gwenno.

Hanes golygu

Mae'r enw Peski yn deillio o'r gair 'pesgi', gair sy'n disgrifio bwydo neu dewhau anifail ffarm. Bathwyd yr enw yn 2002 gan y sylfaenwyr Garmon Gruffydd, Rhys Edwards a ffrind arall wrth gerdded ar dir Eglwys Tyddewi yn Sir Benfro. Unwaith oedden nhw fewn yn y gadeirlan, fe arwyddodd y tri'r llyfr gwestai ac fe anwyd Recordiau Peski.

Cynnyrch cyntaf Peski oedd albwm gyntaf Jakokoyak, Am Cyfan Dy Pethau Prydferth (2003), record o gerddoriaeth electronig arbrofol lo-fi gyda dylanwadau o gerddoriaeth gwerin seicadelig, weithiau'n cael ei alw'n folktronica. Cymerwyd teitl yr albwm o boster wedi ei gyfieithu'n wael ar waliau Undeb Myfyrwyr Caerdydd.[1]. Ar ôl i holl gopïau o'r albwm werthu allan yn y DU, fe'i hail-ryddhawyd yn Japan a chafodd groeso cynnes mewn cylchgronau fel Vogue Nippon. Yn dilyn sawl record arall, fe gefnogodd Jakokoyak y band Super Furry Animals ar eu taith fer o Japan ac fe wnaeth y llwyddiant yma ganiatáu Peski i fuddsoddi mewn artistiaid eraill

Dros y blynyddoedd nesaf, fe wnaeth y label ryddhau sawl record gan David Mysterious (enw go iawn Cai Strachan), Evils a Stitches (prosiect unigol Rhydian Dafydd o The Joy Formidable), cyn arwyddo'r band pop indi seicadelig o Aberystwyth Radio Luxembourg yn 2007, a oedd wedi datgan bwriad i ryddhau dau EP cyn symud ymlaen i label recordiau yn Llundain. Ar ôl bodloni'r cytundeb, fe aeth Radio Luxembourg ymlaen i arwyddo gyda Fantastic Plastic Records ac fe newidion eu henw yn 2009 i osgoi problemau cyfreithiol posib gyda gorsaf radio Radio Luxembourg.[2]

Ryddhawyd record swyddogol cyntaf Cate Le Bon ar Peski yn 2008 gyda'r EP Cymraeg Edrych yn Llygaid Ceffyl Benthyg.[3] Mae'r record yn cynnwys perfformiadau lleisiol gan Euros Childs ac Andy Votel, a gynlluniodd waith celf y clawr feinyl hefyd.[4]

Yn 202, dechreuodd Peski weithio gyda R. Seiliog ac fe ryddhawyd ei EP cyntaf, "Shuffles".[5] Fe aeth R. Seiliog ymlaen i arwyddo cytundeb gyda label Turnstile.

Yn ystod y cyfnod yma, dechreuodd y label gynnal cyfres o nosweithiau chwedlonol 'Peski Nacht' ar lawr uchaf adeilad Jacobs Antiques yng Nghaerdydd. Roedd hwn yn gyfle i arddangos y gymuned gynyddol o artistiaid ar y label yn ogystal â dod ac artistiaid rhyngwladol dylanwadol i berfformio gyda nhw yng Nghaerdydd,[6] tebyg i R. Stevie Moore, sy'n aml yn cael ei ystyried fel sefydlwr Recordio Cartref DIY, Lo-fi a Phop Indi.[7]

Yn 2013, ryddhawyd cyfres o EPs gan Gwenno cyn rhyddhau ei albwm gyntaf Y Dydd Olaf, yn Hydref 2014. Hwn fyddai'r albwm olaf i'w ryddhau ar y label. Gwnaeth yr albwm werthu allan yn gyflym ac yn dilyn taith o wledydd Prydain yn cefnogi Gruff Rhys, arwyddodd Gwenno gytundeb recordio gyda label Heavenly Recordings.[8] Mae Peski yn parhau i weithio gyda Gwenno fel ei rheolwr.

Yn Mawrth 2016, ar ôl cyfnod o dawelwch, cyhoeddwyd fod y label wedi dod i ben.[9]

CAM (Cam o'r Tywyllwch) golygu

Rhaglen radio wythnosol gan Peski yw "Cam o'r Tywyllwch" yn cyflwyno cerddoriaeth arbrofol ac avant-garde o Gymru a thu hwnt. Darlledwyd y rhaglen gyntaf ar 14 Chwefror 2013 a hwn oedd y sioe Gymraeg cyntaf ar Radio Cardiff.[10] Cynhyrchwyd cyfres wyth rhan o "Cam O'r Tywyllwch" ar gyfer Resonance FM yr orsaf radio gelfyddydol Llundain, yn Ionawr 2014 gyda'r bwriad o hybu cerddoriaeth arbrofol o Gymru i gynulleidfa ehangach.[11] Mae'r sioe yn gorffwys ar hyn o bryd.

Mae enw'r sioe yn deyrnged i'r casgliad cyntaf o gerddoriaeth amgen Cymraeg a ryddhawyd ar Recordiau Anhrefn yn 1985. Mae cerddoriaeth agoriadol y sioe hefyd yn gyfeiriad at un o'r esiamplau cyntaf o gerddoriaeth electronig Cymraeg - "Tros Y Gareg" gan John Baker, a recordiwyd yn 1970 yn y BBC Radiophonic Workshop.[12]

Cynhaliwyd Gŵyl CAM yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn 2015, oedd yn cyflwyno rhaglen o drafodaethau, gosodiadau sain, sinema a cherddoriaeth byw. Perfformiodd y band arloesol Datblygu yn fyw yn yr ŵyl am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd[13], gydag uchafbwyntiau arall yn cynnwys perfformiad o "Fish Music" - syniad a ddychmygwyd gan yr awdur a cherddor Sam Richards, lle fyddai pysgod yn nofio mewn tanc yn dod yn nodiant cerddorol drwy erwydd cerddorol pum llinell yn cael ei roi ar y gwydr, ac offerynwyr llinynnol yn cael eu cyfarwyddo i ddewis pysgodyn a dilyn ei gwrs tu ôl ar draws yr erwydd.

Artistiaid golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Peski Records". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-26. Cyrchwyd 2016-03-24.
  2. Race Horses
  3. "Peski - About Cate Le Bon". Peski Records. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-06. Cyrchwyd 2016-03-24.
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-30. Cyrchwyd 2016-03-24.
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-30. Cyrchwyd 2016-03-24.
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-30. Cyrchwyd 2016-03-24.
  7. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2016-03-24.
  8. http://www.nme.com/news/the-pipettes/85280
  9. Carl Morris (24 Mawrth 2016). "Diwedd Recordiau Peski: dyddiau olaf, dyddiau cynnar". Y Twll.
  10. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-30. Cyrchwyd 2016-03-24.
  11. http://resonancefm.com/archives/17334[dolen marw]
  12. http://www.planetskaro.org.uk/forums/threads/2982-The-BBC-Radiophonic-Workshop-Thread
  13. http://www.walesonline.co.uk/whats-on/music-nightlife-news/datblygu-cam-festival-cardiff-8878942